25.1.10

Dyfroedd Cilgwri....


argraffiad o'r sut gallai'r datblygiad edrych rhywbryd yn y dyfodol...

Mae cynlluniau andros o uchelgeisiol ar y gweill i drawsnewid ardal dociau Penbedw a Wallasey i rywbeth o'r enw 'Wirral Waters'. Syniad 'Peel Holdings' yw'r cynllun, yr un un gwmni sydd wedi bod yn cyfrifol am drawsnewidiad 'Salford Quays', ac am ddatblygiad y Trafford Centre (uffern ar y ddaear!), sef y canolfan siopa enfawr ar gyrion Manceinion. Dwn i ddim be' i wneud o'r cynlluniau a dweud y gwir, mae'n bron a bod anghredadwy bod cwmni preifat yn son am fuddsoddi cymaint o bres (£4.5 biliwn!!) mewn i ardal mor ddifreintiedig a Phenbedw, ond mae gan y cwmni 'track record' yn andros o sylweddol, a nhw sydd biau'r tir yn barod!

Wedi dweud hynny, mi fasai'n peth da i adnewyddu'r hen ddociau a wneud y gorau o safle efo golygfeydd godidog dros y dwr tuag at lannau Lerpwl.
Yn ôl y cwmni 'Manhattan ar y Merswy' mi fydden nhw'n ei greu, sy'n dipyn o honiad, os nad yn chwerthinllyd. Calon y cynllun yw canolfan siopa enfawr (sypreis sypreis!), sy'n sicrhau y caiff ei 'dynnu mewn' i gael ei graffu'n fanwl gan y llywodraeth. Mae'n debyg mi fydd 'na gwynion gan canolfanau eraill cyfagos sy'n sicr o gael ei effeithio gan ddatblygiad o'r fath yma, ond fel arfer os mae cwmni'n addo digon o swyddi mewn ardal o ddiweithdra tymor hir mi fydd y datblygiad yn un annodd i'w wrthod. Gwiliwch y gofod hwn, fel mae nhw'n dweud...

No comments: