8.1.10

Golygfeydd gaeafol...


Dani wedi cael ein bendithio gan ddyddiau bendigedig o glîr er gwaethaf yr oerni anghyffredin sydd wedi setlo dros yr Ynysoedd Prydeinig. Pigiais lawr i Morrisons tua pedwar o gloch y p'nawn 'ma a ches i fy nennu lawr i'r prom gan fachlud yr haul.
Ges i syndod i wedl sut gymaint o eira sy'n dal i orwedd ar y traeth, ac hynny tridiau ar ôl i'r eira olaf gaethon ni!




Tynnais y llun yma tua wythnos yn ôl, ar ôl i'r mor gadael llinell o rew pluog ar hyd uchafbwynt y llanw, golygfa rhyfedd iawn!

2 comments:

Linda said...

Lluniau hardd iawn Neil. Ai adar sydd i'w gweld yn yr ail lun?

neil wyn said...

Yndy, ond fedra i ddim dweud pa fath!