23.4.06

Gwaith...





Mae hi wedi bod wythnos andros o frysur yn y gwaith. O'n i'n gobeithio cael mwy o amser i ffwrdd yn ystod gwyliau'r ysgol ond roedd rhaid iddyn ni gorffen y job yma cyn y penwythnos. Ast o jobyn oedd hi mewn gwirionydd, yn trio gwneud yr estyniad i'r cwpyrddau fan'ma yn gyd-fynd a'r darn wreiddiol (y darn o le mae hi'n dechrau troi mi wnaethom ni) . Roedd popeth yn iawn ar ddiwedd a dydd, ac roedd y Grwp Capten 'pwy bynnag ydy o' CBE..... (be' arall fasech chi disgwyl, ond dyn ofnadwy o glen rhaid i mi ddweud), sef ysgrifenydd 'Clwb Golff Frehinol Lerpwl' yn wrth ei fodd efo'r gwaith. Mi driodd y cwmni o Fanceinion (a cynhyrchodd a ffitiodd y cypyrddau wreiddiol) i dwyllo'r Clwb yn go iawn dros yr estyniad yma a dweud y gwir, ond nad ydy'r Grwp Capten yn dwp o bell ffordd, felly mi ddoth y gwaith i gwmni lleol fy ffrind.

Dwi'n mwynhau cael mynd tu mewn clybiau fel hyn mewn 'jins' a ' treinwrs' efo fy ffon symudol yn canu trwy'r amser. Tasai aelodau y clwb neu eu ymwelwyr nhw yn ymddwyn fel hynny fasen nhw yn cael eu 'gofyn' i adael yn syth, fel y digwyddodd i ddatblygwr tai (bastad go iawn ac aelod blaenllaw clwb y ceidwadwyr drws nesa) yn ddiweddaraf! Braf iawn hefyd cael panaid neu ddau ar y balconi lle fydd 'Tiger' yn sefyll mewn cwpl o fisoedd yn chwifio'r hen 'jwg claret', wel falle..

No comments: