6.4.06

Wythnos wallgo

Dwi'm wedi sgwennu fawr o ddim y wythnos yma. Dechreuodd y wythnos efo newyddion drwg am wraig ffrind mawr i fi (ffrind hefyd) sy wedi bod yn yr ysbyty yn cael llawdriniaeth. Mae ei sist wedi troi allan i fod yn canser, ac mae rhaid iddi hi dechra chwech mis o 'gemo'. Dim ond merch cymharol ifanc ydy hi, dwi'n dal i fod mewn stad o sioc. Dwi'n cydweithio efo fy ffrind yn aml iawn (saer dodrefn arall) felly dwi'di bod yn trio gwneud tipyn bach mwy iddo fo y wythnos yma er mwyn ei helpu cael job allan cyn y Pasg os posib. Mae gen i cwpl o jobs dwi'n ceisio cwblhau cyn penwythnos y Pasg hefyd felly dwi'n weld wythnos wallgo arall ar y gweill, ond ar ddiwedd y dydd dim ond dodrefn ydy hi, rhaid ei gadw mewn perspectif......

No comments: