7.4.06

paratoadau'r 'open'

Mae 'na gryn dipyn o gyffro yn yr ardal yma ar hyn o bryd wrth i'r paratoadau ar gyfer y 'British Open' yn dechrau o ddifri. A dweud y gwir mi ddechreuodd pethau flynyddoedd yn ol, efo estyniadau i ty'r clwb a newidiadau i'r cwrs ei hun. Y tro diwetha mi ddaeth 'circus' yr 'agored' i Hoylake, o'n i'n dal i wisgo trowsus byr ac roedd y Beatles yn domineiddio'r byd pop. Dwi ddim yn cofio wrth cwrs, gan dim ond pump o'n i yn 1967

Mae'r 'open' wedi newid o lawer erbyn hyn, mae'r pencampwriaeth yn dod bellach efo erwau o bebyll 'corporate hospitality', chwaraewyr sy'n disgwyl cyflesterau pum seren a darlledwyr a gwasg o bedwar ban y byd. Dros y byd i gyd mae'r gem yn fwy nag erioed. Mae 'na lawer o bobl yn son am 'cashio' mewn ar y peth yn y dref 'ma, ond mewn gwirionydd beth yw'r synnwyr o agor busnes fel bwydy ar sail pencampwriaeth sy'n parhau llai na wythnos ac sydd ddim yn debyg o ddychweled tan 2014.

Y clecs lleol ydy bod Tiger Woods a'i griw wedi cymryd drosodd gwesty lleol yn gyfan gwbl dros wythnos yr 'open', ond dwi wedi clywed am ychydig o dai eraill bod o wedi bwcio, falle pwy a wir..

Fydd y cyffro i gyd yn dechrau mis gorfennaf

No comments: