23.4.06

Tseina

Dwi newydd gwilio rhaglen yn y cyfres diddorol S4C 'China'. Mae'n rhywbeth da iddyn ni dwi'n meddwl cael gwybod mwy am y gwlad (gwledydd ?) yma sy'n chwarae rhan pwysig mewn ein bywydau ni. Mae'n bron amhosib erbyn hyn prynu unrhywbeth (yn enwedig yn y byd tecnoleg) sydd ddim wedi cael ei cynhyrchu yn Tseina. Dyni i gyd yn dibynnu yn llwyr, mae'n ymddangos ar 'wyrth economaidd' cawr y ddwyrain. Mae Tseina erbyn heddiw yn ceisio bwydo dwbl y nifer o bobl efo hanner y tir amaethyddol wrth i'r llywodraeth yn gwthio ymlaen efo datblygiadau diwyddiannol enfawr. Yn ol llais unig adran yr amgylchedd llywodraeth Tseina, mae 'na rhywbeth mawr o'i le. Dim ond 600 miliwn o bobl yw'r tir yma yn gallu cynnal yn parhaol, ond mae gan Tseina 1.3 biliwn erbyn heddiw. Yr ateb o ddefnyddio mwy a mwy o cemegolau yn lladd yr afonydd a'r llynoedd, ar ben y llygredd diwyddianol sy'n cael ei bwmpio ynddyn nhw yn barod. Mae 'na gost i bopeth, ac efo'r byd yma yn 'crebachu' pob dydd mae'n pwysig bod ni'n cael weld effaith ein 'consumerism' ar weddill y byd. Da iawn S4C

No comments: