13.4.06

ser-ddewin yn dysgu'r iaith...
























Tasai'r llun 'ma newydd rhoi dipyn o sioc i chi, ymddiheuriadau, ond glywais i rhywbeth anhygoel neithiwr ar Wedi 7... Russell bach yn siarad Cymraeg! O'r gorau, 'swn i ddim yn dweud roedd o'n hollol rhugl 'to, ond chwarae teg roedd o'n ynganu'r geiriau riet dda. Dwi wedi clywed o yn son am fyw yn Eryri nifer o weithiau dros y flynyddoedd ond byth am ddysgu'r iaith. Yn ei ol, mae o wedi bod wrthi ar gwrs Wlpan efo tiwtor yn Aberystwyth. Rhywbeth arall anhygoel, yn ol ei dudalen ar wefan Equity, mae o'n siarad pob math o ieithoedd eraill yn barod gan cynnwys Gaeleg ac Affrikans.

Wrth cwrs mae'r gyfan gwbl yn y ser....

No comments: