29.4.06

pwyllgor y dysgwyr

Cwpl o wythnosau yn ol, wnes i yrru e-bost at Swyddfa Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau (sef steddfod 07) yn cynnig cymhorth ar rhan y dysgwyr (fel finnau). O'n i'n meddwl fel dysgwr sy' wedi dysgu o bell ar ben fy hun yn y rhan mwyaf mae gen i gyfraniad 'wahanol' i'w cynnig, wel falle ta waeth! Mi ges i ymateb yn syth chwarae teg, yn gofyn i mi i roi fy enw ar rhestr o bobl ar gyfer pwyllgor y dysgwyr ( y grwp sy'n trefnu gweithgareddau ym Mhapell y Dysgwyr - Maes D erbyn hyn dwi'n meddwl). Mi wnes i mynd ati i wneud hyn felly ddoe dyma fi'n derbyn gwahoddiad i gyfarfod cyntaf y pwyllgor ar ddegfed o Fai yn Ysgol Maes Garmon.

Bydd hyn yn her go iawn, wrth rheswm mae'r pwyllgor yn gweithio trwy cyfrwng y Cymraeg ond dwi'n edrych ymlaen at y sialens. Mae nhw yn gobeithio cael pwyllgor mawr efo llawer o syniadau yn dod drwyddi er mwyn gwneud 'Steddfod Sir (y) Fflint profiad da i ddysgwyr.

Wnes i ymweled a^ phabell y dysgwyr ym Meifod '04 ac ar y Faenol llynedd, felly dwi'n gwerthfawrogi y gwaith mi wnath pobl i groesawi dysgwyr yna. Yn enwedig mewn ardal cymharol di-Gymraeg fel Sir y fflint fydd 'na llwyth o 'ddysgwyr potensial' i gefnogi.

No comments: