30.4.06

Llestair

Dwi wedi cael fy llesteirio'r wythnos 'ma wrth drio prynu camera digidol newydd oddi wrth y we.
Dwi'n prynu llwyth o bethau ar lein, ac wastad wedi cael gwasanaeth da oddi wrth yr amrywiaeth o gwmniau dwi wedi eu delio efo nhw. Felly pan wnes i benderfynu ar ba camera o'n i eisiau prynu mi wnes i'n syth ar y we er mwyn dod o hyd y pris gorau. Ar ol cryn dipyn o chwilio mi ffeindiais i bris rhai cant a hanner o bunoedd yn llai 'na'r RRP yn cael ei chynnig gan cwpl o gwmniau. Fel arfer mae'r cwmniau sy'n marchnata ar y we yn cael eu beirniadu efo system seren ar y gwefanau o'r fath 'prisgorau.com' felly dewisiais i'r un efo'r pedwar seren a hanner.

Dwi newydd darllen hyn yn ol, mae'n diflas dros ben mae'n ddrwg gen i...! felly i dorri stori hyr yn byr, dwi'n dal i fod heb camera ar ol rhyw deg diwrnod o aros. Mae nhw wedi rhoi y bai ar Canon ac wedi addo'r peth tua canol wythnos nesa, gawn ni weld.

Dwi'n awyddus i drio wneud ambell 'fideoflog' ar ol i mi weld y rhai wnath Chris Cope yn diweddar, felly dwi'n gobeithio cael yr offer i'w wneud cyn bo hir.

No comments: