9.6.06

cwpan y byd

Wel wedi'r'heip' i gyd mae'r cystadleuaeth go iawn wedi dechrau a nid cawsom ni ein siomi. Mi wnath wyth gol yn y dwy gem cyntaf tanio cwpan y byd fel cystadleuaeth, a wnath llond boliau o gwrw tanio cefnogwyr Lloegr, wrth i gefnogwyr Yr Almaen dod ymuno a nhw i ddathlu eu buddugoliaeth. Gawn ni weld os fydd Paraguay yn eu tawelu, dim yn debyg mewn gwirionydd ond 'hen gem rhyfeddol' yw peldroed....

3 comments:

Chris Cope said...

Dw i wedi gwylio pob gêm hyd yn hyn. Roedd tipyn o syndod arna i i weld Lloegr chwarae cynddrwg â chwaraeasant nhw. Wedi ennill ydyn nhw, ond dim fel y byddwn i wedi feddwl.

neil wyn said...
This comment has been removed by a blog administrator.
neil wyn said...

Tim fi erbyn hyn ydy Trinidad a Thobago :) Cawson nhw glamp o gem yn erbyn Sweden! ac wrth cwrs mae ganddyn nhw cysylltiadau cryf efo Wrecsam.