17.7.06

Diwrnod ymarfer cyntaf yr 'Open'



Mi gerddon ni lawr y lon i gwrs golff Hoylake ddoe er mwyn cael flas o'r holl ffwdan mae nhw'n alw 'The Open Championship'. Dim ond pump punt yr oedd hi ddoe am ddiwrnod ar y cwrs, felly roedd 'na ychydig o filoedd o bobl yn crwydro y lincs yn gwylio chwaraewyr fel Tiger Woods a Faldo yn mynd o'i gwmpas. Roedd 'na awyrgylch yn llac iawn ddoe ac mi wnaethon ni mwynhau jysd eistedd yn yr heulwen. Prin iawn wnath y golff tynnu ein sylw ni a dweud y gwir, ond mae'r hen gwrs yn edrych llawer galetach na faswn i wedi dychmygu, dwi'n edrych ymlaen at weld y peth ar y BBC nes ymlaen yn y wythnos rwan.



Moel Famau yn y pellter



Ynys Hilbre



Braf cael weld y ddraig goch yn chwifio ywchben...

1 comment:

James said...

Mae e'n chweg iawn eich bod chi'n mor agos y gwrs. Dwi'n edrych ymlaen at weld y twrnamaint ar y teledu hefyd.