7.9.09

Dysgwyr Cilgwri

Dwi newydd sefydlu blog newydd efo'r bwriad o'i defnyddio er mwyn rhoi gwybodaeth/cymhorth i aelodau o'r dosbarth nos dwi'n ei dysgu, yn ogystal a dysgwyr eraill yn yr ardal efallai.

(I've just set up a new blog witht the intention of give information/help to members of the night class I teach, as well as perhaps, other learners in the area

Enw'r blog yw (the blog's called):

Dysgwyr Cilgwri

2 comments:

Rhys Wynne said...

Syniad ardderchog a gobeithio bydd yn annog rhai o'r dosbarth i adael sylwadau ac efallai dechrau blog eu hunain i ymarfer. Dw i'n hoffi'r delwedd ar y bar top.

Roeddwn ar gwrs o'r enw llynedd er mwyn dod yn diwtor a dechreuais wiki i rannu gwybodaeth. I dddweud y gwir, dw i heb wneud llawer gyda fo, ond mi wnes i uwchlwytho rhai adnoddau ar gyfer gwersi WLPAN (cardiau fflach ac ati): http://tiwtor.pbworks.com/

Roedd llythyr yn Y Cymro wythnos diwethaf gan ddysgwr o Lerpwl a oedd eisiua pen-friend Cymraeg neu Ddysgwwr i ymarfer ei iaith. Bydd rhaid i mi fynd yn ôl i'r llyfrgell i gael ei gyfeiriad a chrybwyll iddo bod ddosbarth yng nghilgwri.

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau a'r dolen Rhys, mi a i ar dy wefan nes ymlaen. Mae'n debyg yr un boi o Lerpwl ydy o roedd Taro'r Post yn ei drafod ddoe. Dwi newydd ychwanegu post amdan y sioe ar blog 'ma.