23.9.09

Tymor newydd, dosbarth newydd...

Mi gafodd y cyrsiau Cymraeg llawer o ddidordeb yn y noson cofrestru heno, gyda o leiaf pumtheg yn cofrestru ar flwyddyn un, ar ran mwyaf o fyfyrwyr o flwyddyn un y llynedd yn dychweled i wneud ail flwyddyn. Er nad oedd David Jones yn gallu bod yna, mi welais nifer o'i fyfyrwyr o'n dychweled i arwyddo am drydydd flwyddyn.

Mae'r Gymraeg yn parhau i fod un o'r ieithoedd mwyaf poplogaidd y Coleg, efo niferoedd parchus tu hwnt, ac mae'n wastad yn ddiddorol iawn darganfod y rhesymau sydd wedi dod â'r darpar myfyrwyr at y cwrs yn y lle cyntaf. O'r rhai efo carafanau yng Nghymru, i'r rhai efo cysylltiadau cryf Cymraeg. Mae 'na ddynes er enghraifft a gafodd ei geni ar aelwyd Cymraeg yn y Rhondda, er mae ganddi enw Albanaidd iawn ac acen sgows digon cryf!

Mae'n rhaid i mi mynd ati i drefnu fy ngwaith papur i gyd cyn wythnos nesaf (cynlluniau gwersi, Initial Assesment Sheet , a.y.y.m) am fod 'na son am archwiliad Offsted cyn hir, ond mae'n well peidio meddwl am y peth gormod.

4 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n siwr bydd dy ddosbarth yn llwyddiannus eto. Pob hwyl!

neil wyn said...

Diolch yn fawr Emma, dwi'n edrych ymlaen ond ychydig yn nerfus ar yr un pryd!

Corndolly said...

Mae'n siŵr bydd popeth yn iawn, Neil. Dymunaf bod gen i ddigon o hyder i wneud yr un peth.

neil wyn said...

Dwi'n teimlo ychydig yn fwy hyderus eleni na'r llynedd, ond tydy hynny ddim yn dweud llawer!