1.10.09

Mae'r tymor wedi cychwyn...

Mi ddechreuodd y dosbarthiadau nos yn go iawn yr wythnos yma, gyda flwyddyn dau ar nos fawrth a flwyddyn un neithiwr. Roedd hi'n braf gweld bron i gyd y criw o'r llynedd yn eu hôl, ond wrth i mi pigo allan i fynd i'r swyddfa mi welais un o'r criw yn eistedd mewn canol dosbarth David drws nesa, sef flwyddyn tri. Wrth i mi ddangos fy wyneb iddo fo er mwyn ei gyfeirio at y stafell cywir, a dyma fo'n dweud ei fod wedi symud i fyny lefel.. Gwych! Mi wnaeth Michael ymuno â'r dosbarth hanner ffordd trwy'r flwyddyn, ac mae o wedi bod yn dilyn cwrs Prifysgol Agored ynghyd â dosbarth nos fi, a mi fynychodd ysgol haf hefyd. Dwi'n falch felly ei fod o wedi cael y gyfle i symud i ddosbarth a fydd yn fwy addas i'w gallu, ac sy'n ei alluogu cadw mewn cyswllt a gweddill y criw. Yn ystod yr egwyl mi ddaeth o draw i ddweud hylo wrth pawb a dyna ni'n mwynhau detholiad o gagennau 'gwaith llaw'(diolch i Wendy). Wrth rheswm roedd 'na ychydig o dynnu coes am y 'ffaith' dim ond am flwyddyn dau oedd y cacennau i fod!

Nos fercher, mi ges i fy nghyfarch gan for o wynebau newydd, un deg saith dwi'n meddwl, sef y flwyddyn un newydd. Ro'n i wedi anghofio faint o ofn sy'n dod â'r wythnos cyntaf, ac ro'n i wedi bod yn hedfan o amgylch y lle, yn trio gwneud y llungopio ar beriant oedd yn diethir i mi, ffindio pethau fel marcwyr byrddau gwynion, ac yn gweithio allan sut i danio'r sgrîn rhyngweithredol, neu'r 'interactive whiteboard', fel mae nhw'n cael eu galw. Yn y pendraw mi drefnais fy hun jysd mewn pryd, a llwyddais gwneud swyddogaeth iawn-ish o'r noson sy'n 'sesiwn blasu' i'r cwrs. Treuliom ni hanner y gwers yn mynd trwy'r wyddor, ac wedyn mi aethon ni ar daith dychmygol lawr y A55 yn ceisio ynganu'r enwau oedd yn ein wynebu ar hyd y ffordd. Erbyn y diwedd roedd pobl yn dechrau rhoi cynnigion ar yr ynganiadau oedd yn arwydd addawol am wn i, gawn ni weld..

6 comments:

Emma Reese said...

Ydy'r hogyn o Lerpwl a oedd ar Radio Cymru'n un o'r dosbarth tybed?

Alwyn ap Huw said...

Cwestiwn gwirion, hwyrach, ond sut mae dyn yn dod yn diwtor iaith?

Hyd y gwyddwn, prin yw'r dosbarthiadau iaith yn y parth yr wyf yn byw ynddi, ac o'r hyn a glywaf mawr yw'r angen. Fel un sydd yn weddol rugl yn yr iaith ac amser i sbario yn fy mhenwynni i gynnal dosbarth; sut mae mynd ati i ddysgu dysgu Cymraeg?

Rhys Wynne said...

@Neil - Mae'n reit cyffrous dechrau tymor newudd fel tiwtor, dyma fy nhrydedd flwyddyn i ac echnos cwrddais i a fy nosbath newydd. mae 21 ar y gofrestr ond mond 14 oedd wedi dod i'r wers. Criw llawn hwyl, a gyda phawb ond un yr un oed a fi (30ish) neu iau.


@Alwyn
Dw i newydd ddod yn diwtor yn ardal y de ddwyrain. Ar gyfer dysgu Cymraeg i Oedolion, mae Cymru wedi ei rannu'n 6 rhanbarth. Bues i'n ddigon ffodus i ddechrau dysgu yn ardal Gwent (cael fy nghyflogi gan gyngor TOrfaen, ond Coleg Gwent oedd y trefnwyr). Gan bod y galw am ddosbarthiadau mor uchel yno a'r cyflenwad o siaradwyr Cymraeg rhugl yn isel, cefais ddechrau dysgu dosbarth ar ôl rhyw lond llaw o sesiynnau hyfforddiant.

Yn ddiweddar, mae wedi dod yn ofynol i diwtoriaid newydd fod a chymhwyster (neu gytuno i astudio am un - rhyw fath o 'mini' PGCE), ac mae'r cwrs yma'n cymryd dwy flynedd, un noson yr wythnos (er mae wedi ei wasgu i un yng Nghaerdydd gyda rhai penwythnosau).

Prifysgol Bangor sy'n gyfrifol am gyd-lynu yr holl ddysgu ar draws ogledd Cymru, ond mi fydd dy awdurdod lleol (Conwy?) yn gyfrifol am drefnu'r dosbarthiadau yn lleol.

Efallai bod yr uchod yn swnio fel llot o ffwdan, yn enwedig os mai mond eisiau dysgu un dosbarth yr wythnos wyt ti yn y lle cyntaf. Mae'n werth unai cysylltu â Phrifysgol Bangor neu adran Addysg Gymunedol dy awdurdod lleol.

Os ydyn't yn 'desperate' efallai byddan nhw'n hyblyg. Os ydynt yn mynnu dy fod yn mynychu cwrs hyfforddi ffurfiol a does dim awydd gyda ti wneud hynny, beth am brynnu copi o hwn a hwn a dechrau dosbarth dy hun mewn tafarn, neuadd pentref lleol?

Gan mod i wedi dilyn y cwrs hyfforddiant gyda phrifysgol Caerdydd, dw i wedi cael fy nhroed trwy'r drws ac yn dysgu iddyn nhw rwan yn y brifddinas yn hytrach nag i Goleg Gwent, ac mae'n nhw'n Prifysgol Caerdydd yn tueddu dysgu mwy o gyrsiau WLPAN sy'n fwy dwys na'r cwrs Mynediad. Yn bersonol mae'n well gyda fi ddysgu'r Wlpan, ond does dim modd prynu'r gwerslyfr yn unman hyd y gwela i, a dw i'n meddwl bod pob canlfan iaith yn creu eu cwrs Wlpan eu huanain.

Corndolly said...

Llongyfarchiadau Neil ar dy ail flwyddyn fel tiwtor Cymraeg. Mae'n wych clywed bod 'na gymaint o bobl o ddosbarth Un wedi dychwelyd ac mae gen ti ddosbarth mawr eleni. Dw i wedi clywed nad yw hyn wedi digwydd yn Wrecsam. Doedd 'na ddim llawer o bobl sy wedi dechrau dysgu Cymraeg eleni. Mae'n drueni na chyhoeddwyd y newyddion am yr Eisteddfod a gynhelir yn Wrecsam yn 2011 cyn y diwrnod cofrestru.

neil wyn said...

Nacydy Emma, dwi ddim yn credu ei fod o, er gaeth o'r manylion i gyd.

Alwyn, dwi'n credu ei fod Rhys wedi ateb dy gwestiwn yn cyflawn ar ran dysgu yng Nghymru. Mae sefyllfa finnau yn ychydig yn wahanol hwyrach, gan fy mod i'n dysgu tu hwnt i Glawdd Offa, ac nad oes rhaid i'r darparwyr cyrsiau (colegau ac ati) dilyn yr un strwythyr. Ro'n i'n lwcus mewn ffordd, ges i fy nghymeradwyo gan diwtor arall i'r coleg, er doedd gen i ddim profiad o ddysgu'r iaith, dim ond gwaith coed!

Cyn i mi gael y 'swydd' presenol, digwydd bod ro'n i wedi rhoi fy enw lawr i wneud y cwrs efo Prifysgol Bangor ar ran tiwtoriaid efo'r gobaith o gael dosbarth yn Sîr y Fflint rhywbryd, ond gafodd y cwrs ei canslo a chyn i mi gael siawns i gofrestru ar gwrs arall, mi ges i'r cyfle i diwtora yng Nghilgwri. Mi faswn i'n dal i hoffi cael y cyfle i wneud rhywfath o gwrs hyfforddi yn y dyfodol, achos mae gen i lot i ddysgu am ddysgu mae'n siwr!

Rhys, O ran fy nghwrs i, mae criw eleni'n ychydig yn hŷn na'r llynedd, dim ond cwpl o dan eu trideg 'swn i'n dyfalu. Falch o glywed mae gen ti griw hwylus fan acw!

Ro, mae'n bechod os mae'r niferoedd wedi disgyn, er mae 'na dystiolaeth i ddweud bod y dirwasgiad yn effeithio dosbarthiadau nos yn fan'na hefyd. Mae'r colegau lleol wedi codi prisiau dros y dwy flynedd diwetha, ac roedd y niferoedd dros y rhan mwyaf o'r ieithoedd ychydig i lawr, er nid y Gymraeg diolch byth!

Alwyn ap Huw said...

Diolch am y Cyngor. mi af ati i holi Conwy a Bangor