Ges i ddirwy parcio tua pythefnos yn ôl mewn maes parcio yng nghanol y Wyddgrug, tra wneud tipyn o siopa Nadolig. Doedd gen i ddim y newid cywir a chymerais i siawns a fod yn deg. Hugain o bunoedd oedd y ddirwy, ond chwarae teg, trwy dalu o fewn wythnos roedd modd arbed hanner y pres. Wrth rheswm, anghofiais yn llwyr i dalu o fewn y saith diwrnod, a neithiwr deffrais mewn pwll o chwys wedi cofio yng nghanol breuddwyd am ryw rheswm! (falle dwi'n gor-ddweud yr hanes, ond cofiais yn ystod yn nos ta beth).
Y bore 'ma felly, mi es i ati i dalu y cyfanswm llawn (£20) dros y we ar wefan Sir y Fflint, yn dewis wrth cwrs i ddilyn y 'trywydd' Cymraeg! Rhaid cyfadde roedd y profiad yn un ddigon hwylus (o ystyried o'n i'n talu pres a chael dim byd yn ôl!), a llwyddais wneud yr holl busnes yn y Gymraeg, yn ogystal a sylwi ar ambell i wall yng Nghymraeg y safle ('prowr' = 'porwr' mae'n siwr?).
Ond rhywbeth wnes i sylwi arno ar ddiwedd y proses (wrth cofnodi manylion yr anfoneb electronig wnaeth ymddangos fel prawf o'r taliad) oedd y rhif WW00000005. Dwi'n cymryd y WW yn cyfeirio at y ffaith mai anfoneb 'Welsh' oedd hi?.. sy'n awgrymu yr anfoneb a derbyniais oedd y pumed a gynhyrchwyd yn yr iaith yma... dwn i ddim? Gobeithio nad ydy hynny'n adlewyrchiad o'r tueddiad cyffredinol i'r Gymry Gymraeg peidio â dewis yr opsiynau Cymraeg pan mae 'na ddewis ar gael, ond tybiwn i dyma'r gwir amdani. Ond llongyfarchiadau beth bynnag i Gyngor Sir y Fflint am gynnig gwefan dwyieithog effeithiol a defnyddiol (ar ran talu biliau o leiaf)' ac un ein bod ni ochr yma o'r ffin yn gallu 'mwynhau'!
3 comments:
Ella eleni ti ydy'r pumed person ddefnyddiodd yr anfoneb Gymaeg yn y sir.
Da chi am ddefnyddio'r Gymraeg. Mewn ffordd chi'n ateb eich cwestiwn eich hun trwy ddweud "rhaid cyfaddau" i'r broses fod yn hwylus - h.y. yn groes i'r disgwyl. Y gwir yw bod y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth o dan Ddeddf yr Iaith 1993 yn sglein arwynebol ac yn ailraddol o gymharu a'r Saesneg. Ffoniaus i gyngor Aberawe y bore 'ma, yr adran ailgylchu sbwriel. Atebod y fenyw gyda "Bore da/good morning" ond doedd hi ddim yn siarad Cymraeg. Gwnais i droi i'r Saesneg. Dim bod'r fenyw bod hi ddim wedi cael hyfforddiant a dim ond hyn a hyn o egni brwydro sydd gennyf. Mae'n annheg beio'r Cymry Cymraeg am beidio a defnyddio gwasanaethau ail-raddol ar ol canrifoedd o gyflyru i ddefnyddio'r Saesneg mewn cyddestunau swyddogol (nid eich bod chi'n beio nhw). Mae angen troi'r Gymraeg yn norm: Cymreigeiddio sefydliadau trwyddi draw fel bod disgwyliadau'n newydd, wedyn, rhoi dyletswydd ar sefydliadau i godi'r canran o ddefnyddwyr o'r gwasanaethau Cymraeg o flwyddyn i flwyddyn.
Efrogwr, Abertawe
Ella'n wir Junko, mae'n posib eu bod nhw'n dechrau cyfri o 1 pob flwyddyn..?
Diolch am y sylwadau Efrogwr. Dwi'n siŵr bod blynyddoedd maith o wasanaethau Cymraeg ailradd wedi diflusu y mwyafrif o'r defnyddwyr potensial. Ges i fy siomi ar yr ochr gorau wrth gweld darpariaeth ar y we gan Cyngor Sir y Fflint, ond nad ydy eu gwasanaethau nhw i gyd yr un mor hwylus i siaradwyr Cymraeg mae'n siŵr!
Post a Comment