18.1.10

Faint o'r gloch ydy hi....


Dwi newydd cyrraedd diweddglo cyffrous a throellog nofel diweddaraf Llwyd Owen sef ’Mr Blaidd’( ISBN: 9781847711762), ei bedwaredd nofel ac un sy’n cadw at ei ardull unigryw o ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae o’n ein tywys ni drwy strydoedd brwnt y dref dychmygol: Gerddi Hwyan (“sydd ddim yn anhebyg ar ran faint i Ben y Bont“), ar gyrion y prifddinas, a chartref i’r ’Diwydiant Ffilm Cymreig’, sydd ar ei lawr erbyn cyfnod y llyfr (yn y dyfodol agos). Gyda diflanniad ei hefaill Ffion heb ei datrys gan heddlu’r De, mae merch fferm Fflur yn benderfynol o fynd yna i ddod o hyd i’r gwir.
Prin fasai hi wedi dychmygu i ddigwyddiadau datblygu fel y maen nhw, gyda phob math o brofiadau yn ei disgwyl ar hyd ei ffordd.

Mae Llwyd Owen yn sgwennu plotiau da, sy’n symud ar garlam, a hoffais y pennodau cymharol byr sy’n fy helpu i i deimlo fy mod i’n cyflawni rhywbeth sylweddol trwy gorffen pennod yn ystod amser cinio yn y gwaith!

Er hynny mae ‘na rywbeth am un neu ddau o’r cymeriadau sydd ddim cweit yn taro deuddeg I mi. Mae Fflur druan yn ymdopi â chymaint o newidiadau enfawr yn ei bywyd dros cyfnod mor fyr, mae’n rhaid i‘r darllenwr ‘gohirio anghrediniaeth’ (ouch…) i raddau.

Ond wedi dweud hynny, dyma lyfr wnes i wir yn mwynhau, mae’n darllenadwy, mae’n gafaelgar, a des i o hyd i eirfa prin iawn faswn I wedi dod o hyd iddi heb y llyfr hon! Felly i gloi… llyfr da ond nid un fydd yn herio (yn fy mharn i) am ‘Llyfr y Fflwyddyn’ y tro ‘ma, ond werth ei ddarlen yn sicr.

2 comments:

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
James Dowden said...

Nes i orffen y llyfr hwn neithiwr (diolch am fy annog gan bostio'r arolwg hwn). Rwy'n cytuno taw gohirio anghrediniaeth :-) yw'r brif broblem. Rhywsut doedd gen i lawer o amheuon am gymeriad Fflur, ond amrywiodd maint Gerddi Hwyan yn fy meddwl: weithiau roedd fel petai'n fwy na Chaerdydd! Ac roedd arna i dipyn o rwystredigaeth gan fod cynifer o gwestiynau heb eu hateb yn y diwedd. Ond mwynheais i ddarllen y llyfr hwn yn llawer iawn. Bydd rhaid i mi ddod o hyd i lyfrau eraill Llwyd Owen.