6.1.10

Helynt yr Eira....

Mae gan pawb hanes i'w adrodd am y tywydd 'ofnadwy' dani wedi 'diodde' yma ym Mhrydain yn ystod yr wythnos diwetha mae'n siwr. Yn sicr mae hi wedi peri nifer o broblemau ynglŷn â chludiadau o ddefnyddiau i'r gwaith (dwi'n disgwyl llwyth o MDF er mwyn gorffen cypyrddau dillad a ddechreuais i gwsmer cyn y dolig), ond doedd hynny ddim o bwys o gymharu i'r trafferthion teithio a ddioddefodd gan filoedd o deithwyr. Clywais am un berson lleol a dreuliodd wyth awr deithio 15 milltir!

Dydd mawrth mi gauodd ysgol y merch hanner awr yn gynnar er mwyn i'r genod cael siawns o gyrraedd adre yn ddi-drafferth, ond yn anffodus roedd y bysiau wedi stopio rhedeg erbyn hanner awr wedi tri oherwydd cyflwr peryglus y ffyrdd (a damwain bws), a ches i alwad ffôn yn ofyn am lifft. Ro'n i ar fin gadael y gweithdy i nôl y car o adre pan glywais roedd un o'r tadau eraill wedi gadael am yr ysgol yn barod, er mwyn dod â'r tair ferch yn ôl i West Kirby. Roedd hynny'n bendith mewn ffordd gan nad oedd modd gyrru'r car lawr yr allt yn ddiogel, a does gen i ddim ond un sedd sbâr yn y fan (gadawa i ar waelod yr allt mewn tywydd rhewllyd). Ond ar ôl dros awr o aros doedd dim arwydd o'r tad druan oedd wedi mentro tuag at yr ysgol, ac roedd y merched yn dal i ddisgwyl ac roedd hi'n dechrau nosi yn ogystal â bod yn ofnadwy o oer. Penderfynais drio gyrru tuag at yr ysgol yn y fan, yn gobeithio derbyn galwad ffôn cyn cyrraedd yn dweud roedd y genethod ar eu ffordd adre yng nghar y tad arall.
Hanner ffordd ar fy nhaith i'r ysgol, o'n i'n dechrau meddwl camgymeriad oedd fy ymdrech i wneud y siwrne, wrth i'r tagfa o geir oedd yn cropian ar hyd y prif ffordd dod i stop hanner ffordd i fyny allt hir. Wedi sbelan ystyried y posibilrwydd annymunol o cefnu ar y fan a cherdded gweddill y ffordd i'r ysgol (2 milltir), llwyddom basio cerbyd wedi ei gadael gan ei g/yrrwr, ac wedyn bws wedi torri lawr. Roedd pob lôn fel cylch sgleifrio a doedd dim arwydd bod yr un ohonynt wedi eu graeanu.
Yn y pendraw ac ar ôl tua awr ar y ffordd (i deithio 4 milltir) cyrraeddais yr ysgol a des i o hyd i'r genod oedd yn llechu yn y derbynfa efo sawl disgybl arall. Ar ôl sgwrs efo un o'r athrawon mi es i â nhw i'r fan er mwyn iddynt cynhesu ychydig cyn ffonio rhieni er mwyn penderfynu be' i wneud. Penderfynom geisio cludo'r genod adre yng nghefn y fan (rhywbeth na faswn i'n wneud fel arfer wrth rheswm) am nad oedd arwydd o'r tad arall, ac hynny rhai dwy awr ar ôl iddo fo gadael ei dŷ.

Ta waeth, prin oedden ni wedi gadael yr ysgol, yn teithio dim ond 5 m.y.a. pan gafodd y merch galwad ffôn i ddweud bod tad ei chyfaill wedi cyrraedd yr ysgol ar droed, ar ôl i'w gar dod yn sownd rhywle yn yr eira, stopiom ni er mwyn i ni gynnig lifft iddo fo. Gwrthododd y lifft gan mynnu roedd o'n mwynhau y dro, cyn i mi jocio ei fod o'n debyg o gerdded y pump milltir yn cyflymach na ninnau yn y fan.

Felly er mwyn torri stori hir yn byr (wel byrach o leiaf!) cropiom ni adre ar ffyrdd oedd yn iâ i gyd mewn tua awr a hanner, gan fynd y ffordd hirach er mwyn osgoi allt serth. Cyrraeddom ni West Kirby tua chwater wedi saith jysd mewn pryd i weld y tad arall yn cyrraedd ei ddrws wedi cerdded yr un taith!

Mae'r ysgolion i gyd wedi bod ar gau heddiw diolch byth ac mae'r plant wedi mwynhau'r eira. Wrth cwrs wrth gweld y newyddion heno 'ma, mi glywais straeon llawer iawn gwaeth na stori bach ni, oedd yn y diwedd dim ond angyfleustra bach, ond gallai pethau wedi bod llawer mwy cymhleth pe tasai'r fan wedi dod yn sownd fel o'n i'n poeni am sbelan ar y ffordd i'r ysgol!

3 comments:

Emma Reese said...

Am brofiad! Da fod ti wedi cyrraedd adref yn ddianaf.

Linda said...

Dwi'n siwr y bod pawb yn falch o gyrraedd adref y noson honno, neu oleiaf y rhai ddaru fedru cyrraedd adref . Mi gefais i stori debyg gan fy chwaer oedd yn trio mynd adref o'r gwaith yn Ysgol Mornant brynhawn dydd Mawrth. Bu'n rhaid iddi hi a'i mherch adael y car ar y ffordd ddeuol just tu allan i Rhuddlan , a cherdded yr holl ffordd i Drefnant cyn i aelod arall o'r teulu fedru eu cyfarfod yno. Diolch byth am y 'mobiles' ar adegau fel hyn ! Cymer ofal ...

neil wyn said...

Mae mobeils yn cysur mawr mewn sefyllfaoedd felly 'yndyn, ond mewn 'argyfwng' mae'n annodd gwneud galwadau wrth i bawb trio defnyddio'r rhwydwaith ar yr un amser!