30.4.06

Amgueddfa'r Byd Lerpwl

Mi aethon ni dros y dwr i Lerpwl heddiw er mwyn ymweled yr amgueddfa. Y dyddiau yma mae prif amgueddfa'r dinas yn cael ei alw 'Liverpool World Museum' er mwyn wahanu'r peth o'r 'Maritime Museum' a'r 'Museum of Liverpool Life' sy'n canolpwyntio ar bethau ynglyn a'r ardal (mae hyn yn amlwg mewn gwirionydd 'tydi!). Dyni ddim wedi bod yna ers i'r lle gafodd ei adnewyddu dros y cwpl o flynyddoedd diwetha, ac a dweud y gwir roedd hi'n edrych braidd yn flinedig. Mae'r wahaniaith yn ffantastic wrth i chi mynd i mewn trwy'r mynedfa newydd i'r 'atrium' sy'n rhoi canol a chalon i'r adeilad (yr un drws nesa i'r amgueddfa gwreiddiol) roedd yn gynt rhan o'r hen 'Liverpool Poly' (Prifysgol John Moores erbyn hyn). Mi welom ni dim ond y 'Bug house', yr 'acweriwm' ac y siop wrth cwrs yn y cwpl o oriau sydd gynnon ni yna, ond heb os fydden ni yn ol dros y gwyliau ysgol nesa, mae 'na llwythi i weld a phopeth am ddim hefyd!

Ges i syndod braf wrth sbio ar wefan amgueddfeydd Lerpwl i weld y Gymraeg fel un or dewisiadau.

2 comments:

James said...

Mae e'n rhy ddrwg doedd camera newydd ddim gyda ti ar y ymweliad i'r amgueddfa. Oes llawer o atynfeydd arall gyda Lerpwl gweld?

neil wyn said...

Dyni'n gobeithio mynd yn ol cyn bo hir, fydd y camera gyda fi erbyn hyn gobeithio! felly mi wna i flogio mwy amdanhi efallai.

Mae Lerpwl yn cael ei drawsffurfiad ar hyn o bryd (Fydd hi 'Dinas Diwylliant Ewrop 2008' sy'n fawr o fraint bod llawer o ddinasoedd-gan cynnwys Caerdydd-yn brwydro drosti hi). Ar wahan i'r amrwiaith o amgueddfeydd mae 'na 'Neuadd San Sior' (St Georges Hall), adeilad neo clasurol pwysig iawn, yr holl stwff y Beatles wrth cwrs ac yr 'Albert Dock. Un peth bach arall, llai nag awr o Gogledd Cymru ydy hi hefyd!