27.4.06

peint yn y Casell Rhuthun

Mi es i draw i'r Wyddgrug yr heno 'ma er mwyn cael peint a 'sesiwn sgwrs' efo'r criw arferol. O'n i'n teimlo blinedig iawn a dweud y gwir ac nad oedd fy Nhgymraeg yn llifo cystal a hynny. Mae hynny yn rhywbeth od 'tydi, weithiau dwi'n teimlo bron yn rhugl yn yr iaith 'ma, ond prydiau eraill dwi'n baglu dros pethau sylfaenol, yn enwedig pan dwi'n trio dweud stori neu rhywbeth sy'n debynnu ar cael llawer o wybodaeth allan yn gyflym. Sdim ots, 'na gafodd Rhufain ei hadeiladu mewn diwrnod' fel dwedodd unrhywun unwaith...

2 comments:

Tom Parsons said...

Dw i'n gwybod yn union beth wyt ti'n dweud. Pan ydw i'n darllen pethau yn Gymraeg, neu gwrando ar BBC Cymru, dw i'n meddwl i fy hunan, "Be' 'dy'r gair [insert simple, everyday, common word here]."

neil wyn said...

dwi newydd sylwi hefyd alla i ddim syllafu chwaith: Casell...wrth cwrs ddylswn i wedi sgwennu 'Castell'!