1.9.09

Rhyd Fudr....




Be' fedra i ddweud am Ryd Fudr? Adeilad sy'n dyddio yn ôl i 1725 ydy o, bwthyn clyd yn cuddio mewn plygiad yn y tirlun, ond er hynny lleoliad sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd o fynyddoedd Meirionydd a thu hwnt. Does fawr ddim wedi newid dros y canrifoedd o sbio trwy'r ffenestri cyfyngedig mae'n siwr. Does dim ffyrdd i'w gweld, dim sŵn traffic, dim gwrid oren i lygredu lliw'r nos, dim ond sŵn defaid, adar, y gwynt a'r glaw. Dim ond milltir o bentref Llanuwchllyn ydy o, ond milltir go iawn yw hynny, milltir Cymreig. Wedi gadael y pentref ar y lôn sy'n amgylchu ochr dwyreinol Llyn Tegid, mae 'na lidiart digon anhysbys ar y de, yn syth ar ôl G&B Felindre. Wrth basio trwy'r giât mae 'na lwybr cul s'yn arwain i fyny yn serth, yn dilyn nant bach byrlymus. Efo dibyn ar yr un ochr ar y teirs yn llithro ar wyneb llech y lôn, go brin fasai Nissan Note (neu unrhyw cerbyd heb yriant 4x4) cyrraedd 'y Rhyd' yn ystod misoedd y gaeaf.

Dwi byth yn cofio penwythnos gwŷl y banc mis awst mor wael ar ran y tywydd. Diolch byth mi wnaethon ni benderfynu dringo Cadair Idris ar y dydd sadwrn, dydd cymharol teg ar ran yr 'elfennau'. Efo'r cymylau'n hofran o amgylch uchder y copeuon mwyaf, roedd 'na siawns o leiaf o gael gweld rhywbeth o Ben y Cadair, uchafbwynt y taith ac ein ymdrechion corfforol. Mae Llwybr 'Tŷ Nant' (the Pony path) yn ffordd cymharol rhwydd o gyraedd y copa, a dim ond y chwater milltir olaf s'yn cynnig her go iawn i'r cerddwr hamddenol ('fatha ninnau!). Wedi dweud hynny mae'n llwybr ardderchog, ac ar ôl oedi tua hanner ffordd ifyny am bicnic, mi gyrraeddom ni Ben y Cadair tua dwy awr a hanner ar ôl gadael maes parcio Tŷ Nant. Wedi tipyn o dynnu lluniau ger concrît gwyn y 'trig pwynt', a jysd mwynhau'r profiad o fod ar y copa, mi wnaethom ni fentro trwy mynediad tywyll y lloches storm, er mwyn gysgodi rhag y gwynt a'r glaw oedd wedi dechrau bwrw. Yn yr adeilad hon mi benderfynodd teulu gyfan cysgu ynddi dim ond wythnos diwetha, ar ôl i'r tywydd troi'n wael. Yn ôl 'warden' Parc Genedlaethol Eryri (a digwyddodd bod yn cael paned yn y cwt cerrig ar yr un amser â ni, a thua dwsin o gerddwyr eraill) gaethon nhw eu harwain oddi ar y copa gan 'dîm achub mynydd' efo un ohonynt yn dioddef 'diffyg gwres'. Ges i sgwrs bach efo fo yn y Gymraeg, ar ôl clywed ei acen o (boi o Drawsfynydd), a chymeron ni gyngor am y ffordd orau i lawr efo'r cymylau'n dechrau disgyn. Wedi cipolwg lawr Llwybr y Llwynog (sy'n disgyn yn reit sydyn lawr sgri go lithrig ei golwg), mi wnaethon ni benderfynu mynd yn ôl dros y top ac i lawr y 'Pony Path'. Taith yna ac yn ôl o ryw saith milltir, pob un yn cynnig golygfeydd gwahanol o ardal o harddwch trawiadol. Yn ôl â ni wedyn i cynnau tân yn stôf llosgi coed Rhyd Fudr, wedi saib sydyn yn Nolgellau am bryd o fwyd 'i fynd' o 'Siop sgod a sglods Stewart'!

Golwg or copa, efo Pont y Bermo yn y pellter..

1 comment:

Emma Reese said...

Da iawn i chi gael gerdded yn ôl yn ddianaf.