Wel mae degawd arall wedi dod i ben, trobwynt sy'n wneud i rywun meddwl yn ddyfnach na throad blwyddyn arferol, mae'n siŵr. A dweud y gwir, nad ydwi'n person ofergoelus, ac mae troad un flwyddyn yn union yr un fath ac un arall mewn gwirionedd, dim ond 'damwain hanesyddol' sy'n rhoi pwyslais arbennig ar flwyddyn penodol. Ond falle mae angen arnyn ni rywbeth i ganolbwyntio'r meddwl pob hyn a hyn, rhywbeth i wneud iddyn ni gymryd stock o'r hyn ein bod ni wedi cyflawni (neu ddim wedi cyflawni!), ac er mwyn cynllunio i'r dyfodol?
Wedi dweud hynny, nad ydwi'n person 'cynllun pum blynedd' fel petai, byw o un ddiwrnod i'r llall ydwi fel y cyfryw, yn ceisio cyflawni ambell i 'uchelgais' ar hyd y ffordd. Meddwl ro'n i'r bore 'ma, deng mlynedd yn ôl doedd gen i ddim clem sut i droi cyfrifiadur ymlaen, a doedd gen i ddim Cymraeg (o leia dim Cymraeg ro'n i'n gallu defnyddio i gael sgwrs). Pe tasai rhywun wedi dweud wrtha i yn y flwyddyn 2000, mi faswn i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg rhan amser ac yn cynnal blog Cymraeg ar y we (doedd gen i ddim clem be' oedd y we adeg hynny chwaith, ar wahân i gofio Mr Blair yn sôn am bawb yn cael mynediad i'r 'information superhighway' mewn ambell i gynhadledd i'r wasg!), mi faswn i wedi tybio person gwallgof oedden nhw! Ond dyna gyffro bywyd 'tydy? y pethau dyni heb eu rhagweld sy'n gallu newid ein bywydau, er mae ochr arall y ceiniog sgleiniog honno'n gallu bod yn afloyw, ac yn dod â thristwch i'n bywydau hefyd, o bryd i'w gilydd...
Dwi heb feddwl am adduned(au) eto, ond mae'n debyg meddylia i am un a wna i fethu cyflawni cyn diwedd y dydd!
1 comment:
Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod dim byd am Gymru deg mlynedd yn ôl!
Blwyddyn newydd dda i ti!
Post a Comment