16.5.10
Blog yn ei newydd wedd...
Dwi wedi treulio ychydig o amser yn newid gwedd fy mlog 'Dysgwyr Cilgwri' er mwyn gwneud i'r peth yn fwy deniadol gobeithio. Dylwn i drio postio yn amlach yn fan'na, ond diffyg amser yw'r hen elyn fel arfer. Gobeithio mi fydd y golwg newydd yn fy ysbrydoli i wneud rhagor gyda fo, yn enwedig dros y gwyliau haf - adeg lle mae sawl dysgwr yn ffindio fo'n annodd cadw 'cysylltiad' á'r iaith mae'n debyg.
14.5.10
Clwb darllen...
Ges i dipyn o frys yn y diwedd gorffen y llyfr 'Cymer y Seren' mewn pryd i'w adolygu bore dydd llun.
A dweud y gwir wnes i'w orffen tua chwater i unarddeg, llai na hanner awr cyn i mi ddisgwyl galwad ffón gan Wedi 3 yn gofyn am fy adolygiad i! Wrth i mi ddechrau sgriblo rhywbeth lawr yn reit sydyn, dyma Eleri o'r rhaglen yn ffonio i ddweud y basen nhw'n dipyn yn hwyr yn fy ffonio oherwydd diffyg technegydd. Er dim ond cwta chwater awr oedd yr oediad, ro'n i'n falch iawn ohono, ac erbyn iddynt ffonio yn ól ro'n i wedi llwyddo i sgwennu ychydig o feddyliau hanner call i lawr. Llwyddais i'w darllen (wrth trio peidio swnio fel ro'n i'n eu darllen) yn o lew dwi'n meddwl, gyda Eleri yn fy nghysuro am y golygu celfydd y basai'n digwydd ar ól y recordiad!
Mi aeth y pwt 'golygedig' allan ar Wedi 3 dydd mercher (fel rhan o 'Glwb Llyfrau' y rhaglen), yn ogystal á adolygiad rhywun yn y stiwdio o'r un llyfr, a llyfr arall (Naw Mis gan Caryl Lewis dwi'n meddwl). Wrth i fy sylwadau i gael eu darlledu, ymddangoswyd fap o Brydain Fawr á smotyn melyn wedi ei osod ar leoliad Cilgwri, a fy enw i wrth ei ochr! Teimlais wrth ei gwylio fel rhyw 'corrrespondant' o bell yn adrodd rhywbeth o bwys i'r newyddion! ac wedyn dychwelodd realaeth y sefyllfa... sydd ddim cweit yr un peth nag'ydy!?
Dwi wedi dechrau llyfr newydd rwan, ond nid fel rhan o'r clwb darllen. Mae 'Gadael Lennon' gan Bet Jones yn hanes hogan yn ei harddegau sydd wedi byw yn Lerpwl ers rhai wyth mlynedd, ar ól i'w theulu symud yna o Ben Llyn. Erbyn hyn mae'n rhaid iddynt symud yn ól i Gefn Gwlad Dwyor (am resymau teuleuol), rhywbeth sy'n torri ei chalon hi, a hithau wedi ymgartrefu yn y ddinas fawr ac yn dwli ar y 'Ffab Ffor'. Mae'n llyfr andros o ddarllenadwy, a'r cysylltiadau efo Lerpwl a'r Beatles yn gwneud i'r hanes yn arbennig o ddiddorol i mi hefyd. Gobeithio fydda i'n ei gorffen hi dros y penwythnos.

11.5.10
Pennod newydd...
Dwi newydd cyrraedd adre a darganfod mae gynnon ni Brif Weinidog a llywodraeth newydd sbon.
A dweud y gwir teimlais beth rhyddhad, ar ól yr holl wythnosau o ymgyrchu, a'r dyddiau di-baid o drafodaethau rhwng y pleidiau, er nad ydwi'n rhy hoff o liw y glymblaid newydd.
Ni allwn i weld sail cadarn i'r glymblaid enfys mi fasai rhai yn y Blaid Lafur wedi cefnogi, ond yn y pendraw mi wnaeth 'mawrion' y blaid fel David Blunkett helpu rhoi'r hoelen olaf yn arch y cynllun yna beth bynnag. Yn y bore felly, mi fydd tudalenau blaen y papurau newydd yn llawn lluniau o'n Prif Weinidog newydd David Cameron, a'i wraig beichiog Samantha. Mae'r Deyrnas Unedig wedi dechrau pennod newydd, a hynny o dan llywodraeth clymblaid rhwng y Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol, tybed pa mor hir gallai'r drefn parhau?

9.5.10
Tasg Darllen...
Mae gen i dipyn o dalcen galed heddiw, hynny yw gorffen 'Cymer y Seren' (gan Cefin Roberts) un o lyfrau rhestr hir Llyfr y Flwyddyn eleni. Derbyniais y llyfr gan Glwb Llyfrau Wedi 3, a bore fory mi wnawn nhw'n ffonio fi er mwyn i mi gynnig fy mharn, ond y peth ydy dim ond hanner ffordd trwyddi ydwi! Gorffenais 'Y Trydydd Peth' mewn brys yr wythnos diwetha, am eu bod nhw wedi gofyn i mi adolygu hwnnw i ddechrau, ond wedyn ges i e-bost i ddweud ro'n i i fod yn adolygu y llall. Diolch Byth mai Cymer y Seren yn weddol hawdd i'w ddarllen, ac mewn arddull dwi'n mwynhau fel arfer, sef llyfr dirgelwch. Yr unig problem - yr un arferol i mi - yw dadansoddi'r darnau swmpus o ddeialog, a'r rheiny wedi eu sgwennu mewn ymgais i adlewyrchu tafodiaethau. Oes 'na fwy o ddewis yn y Gymraeg ar ran syllafu a chwtogi geiriau, dwi ddim yn 'sicir' ond mae'n teimlo felly weithiau!?
8.5.10
Senedd Grog...
Dyni yng nghanol un o gyfnodau mwyaf cyffrous mewn gwleidyddiaeth Prydeinig ers cenhedlaeth falle - wel cyfnod yr un mor gyffrous a datganoli ? - Mae'r Ceidwadwyr yn glwm mewn trafodaethau á'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn ceisio creu clymblaid digon cryf i ffurfio llywodraeth newydd. Mae'r drefn 'Cyntaf heibio i'r Postyn' wedi siomi'r Toriaid am unwaith - prif gefnogwyr y cyfundrefn, un sy'n mynd yn ól i gyfnod dwy blaid.
Mewn sefyllfa Senedd Grog, fel yr un sydd ononi rwan, mae'r cyfansoddiad Prydeinig yn rhoi'r dewis o geisio ffurfio llywodraeth i'r Prif Weinidog. Gyda'r Dem Rhydd's yn mynnu siarad gyda'r blaid 'buddugolaethus' (ar ran nifer o seddi a phleidleiswyr) yn gyntaf, doedd gan Mr Brown ddim dewis ond aros iddynt mynd trwy proses o drafodaethau, yn y gobaith eu bod nhw'n methu. Tasai hynny i ddigwydd gallai Clegg a'i blaid cyfiawnhau mynd at Brown a'r Blaid Lafur er mwyn ceisio ffurfio 'glymblaid enfys' (gan cynnwys Plaid Cymru a'r genedlaetholwyr o'r Alban), trefn fasai'n cynnig iddynt addewid o reffyrendwm ar newid y cyfundrefn pleidleisio.
Ar hyn o bryd mae'n debygach bod y Toriaid yn mynd i wneud rhywfath o gytundeb a'r Dem Rhydd's er mwyn sefydlu llywodraeth sefydlog yn weddol gyflym. Dydy'r marchnadoedd arriannol ddim yn hoffi ansicrwydd, ac mi fasai Clegg helpu ei achos ei hun trwy cefnogi'r ceffyl blaen, er mi fydd hi'n annoddach iddo mynd á'i blaid yno efo fo. Mae gynnon ni wythnos 'diddorol' tu hwnt o ein blaenau!

5.5.10
Etholiad...
Wel mae'r dadlau bron wedi dod i ben, ac yfory gawn ni'r cyfle i fwrw pledlais o'r diwedd.
Gawn ni ddewis gwell nag erioed o raglenni arbennig ar y teledu (er dim ond un yn y Gymraeg wrth cwrs), gyda graffegau newydd sbon a phob math o declyn gweledigol i drio ein helpu ni dadansoddi'r canlyniadau wrth iddynt ddechrau cyrraedd. A dweud y gwir dwi wrth fy modd á'r holl syrcas, er rhaid dweud dwi wedi diflasu ychydig erbyn hyn.
Gyda'r 'bysiau brwydr' wedi eu parcio, ac arweinyddion y pleidiau yn cilio yn ól i'w etholaethau, mi fydd yfory yn dod á newid i'r Deyrnas Unedig, ond pa newid bynnag yw hynny pwy a wir. Ta waeth, mae'n debyg, ar ól yr holl dadlau, mi fydd angen i'r pleidiau bod yn ymarferol a gweithio efo eu gilydd dros y dyddiau nesaf er mwyn sicrhau llywodraeth newydd, onibai am gwymp sylweddol yng nghefnogaeth i'r Plaid Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond mae un peth yn saff... mi fydd nos yfory'n noson hir iawn!

2.5.10
Gwlad y Mór
Dyma'r darn a sgwennais ar ran cystadleuaeth 'Gwobr Dafydd ap Llywelyn' eleni, sy'n rhan o Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain. Mae rhaid i chi sgwennu tua 500 o eiriau ar unrhyw agwedd o hanes yr ardal. Gafodd y cystadleuaeth ei sefydlu mewn rhan i godi proffeil ymgyrch i godi colofn yn Sir y Fflint i'r unig tywysog Cymreig i gael ei eni yna, rhywle ger Bagillt os cofiaf yn iawn.
Gwlad y Mór
Wrth groesi’r ffin ar un o lonydd di-ri yr A550, mae’n annodd dychmygu profiad teithiwr yn dilyn yr un drywydd cyn i ’Wlad y Mor’ codi o leithder y Dyfrdwy.
Buodd groesfan yno ers canrifoedd lawer. Fel rhyd isaf y Dyfrdwy, roedd rhyd Shotwick yn ffordd pwysig rhwng Gymru a Lloegr, a phasiodd ‘Saltesway’ trwyddo ers yr oesoedd tywyll, yn dod â halen o Swydd Caer i Gymru. Er gwaethaf y peryg o groesi aber lanwol, cynnigodd lwybr llygad, a modd osgoi tollau a lladron pen ffordd lonydd coediog. Defnyddwyd y rhyd sawl tro fel llwybr milwrol, ac yn y 11C cododd Castell Shotwick yn ymyl y rhyd gan Iarll Caer, er mwyn gwarchod ei diroedd rhag ymosodiadau o Gymru. Arweinodd Harri II a Harri III byddinoedd dros y rhyd yn ystod eu hymgyrchoedd yn erbyn Cymru, ac yn 1277 ymwelodd Edward I â’r castell, cyn arwain byddin enfawr dros yr aber ar ddechrau ei waith o godi ‘cylch haearn’ o amgylch Cymru, a hynny ar ben arall y croesfan yn y Fflint.
Er afon o bwys morwrol buodd y Dyfrdwy ers dyddiau’r Rhufeiniaid, erbyn y 17C roedd lleidio difrifol yn rhwystro sawl llong rhag gyrraedd porthladd Caer, ac yn bygythio ffyniant y ddinas. Wedi degawdau o drafodaethau, a geiau eraill yr aber yn fynnu ar draul Caer, penderfynodd awdurdodau’r ddinas torri camlas er mwyn gwella mynediad i’r porthladd.
Agorwyd y ’New Cut’ o Gei Connah i Saltney yn 1737, gan symud cwrs y Dyfrdwy i ddilyn glannau Sir y Fflint. Yn ogystal â hwyluso’r daith i Gaer, creuwyd y camlesu cyfle i sychu rhagor o’r gorsydd, proses oedd wedi dechrau cyn i’r camlesu mae‘n debyg (cofnodwyd yr enw ’Sealand’ cyn i’r gwaith camlesu). Maes o law fe fyddai’r filoedd o erwau newydd yn dod â thyfiant enfawr i’r ardal, er methiant oedd yr ymdrechion i achub porthladd Caer yn y tymor hir, wrth i’r siltio parhau, a’r Dyfrdwy’n ildio i lewyrch y Mersi.
Gyda draenio’r gorsydd a’r camlesu daeth pennod newydd i’r aber gyda ffyrdd a gwasanaethau ferri, gan cynnwys Y Fferi Isaf (Queensferry), yr un bwysigaf. Yn 1890 pontwyd y Dyfrdwy gerllaw gan reilffordd, a disodlwyd y gwasanaeth fferi gan bont ffordd yn 1897. Roedd y rheilffyrdd yn sbardun i don newydd o ddatblygiadau ar y tir adenilledig. Yn 1896 agorodd John Summers gwaith dur ger y Dyfrdwy, wrth fanteisio ar dir rhad yn ymyl yr afon. Yn ei hanterth gweithiodd ddros 13,000 yna, er daeth y gwaith cynhyrchu dur i ben yn 1980 gyda cholled enfawr o swyddi.
Heddiw, wrth wibio heibio i’r ddraig enfawr wrth ymyl y ‘traffordd’ a’r ffatrioedd a ddenwyd i lenwi bwlch ‘Summers‘, mae’n werth cofio, digon hawdd gallai’r darn rhyfedd hwn o Gymru wedi troi yn rhan o Loegr. Yn ôl un hanes er mwyn cadw beddau llaith morwyr o Gymru - a gollodd yn yr afon - yng Nghymru, fe arhosodd y ffin yn ei unfan. Mae hanes diweddarach yn son am ffermwr o Wlad y Mor, a lwyddodd i wrthsefyll ymdrechion yr Arolwg Ordanans i ‘dacluso’ y ffin trwy ei symud i ddilyn y camlas, ac hynny ar y cyd gyda’r hên Sîr Clwyd. Pa hanes bynnag sy’n wir, darn pwysig o Sîr y Fflint yw’r tir a gipiodd o’r môr erbyn hyn.

30.4.10
Dim ond un ddewis....
Fedra i ddim dweud fy mod i wedi cynhesu at Gordon Brown, nag y naill o'i wrthwynebwyr slic neu'r llall a dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol. Mae 'na debyg o fod rhyw 'ego' afreolus tu mewn i bersanoliaeth unrhywun sy'n ddigon uchelgeisiol i fynd am swydd y prif weinidog, sy'n codi cwestiynau ynglyn á pha mor addas ydyn nhw i wneud y swydd yn y lle gyntaf. Maen nhw'n pysgod mawr sydd wedi tyfu yn fwy trwy fwyta pysgod eraill. Gafodd y pysgod newydd yn y pwll, Nick Clegg, amser gweddol rhwydd yn ystod y dadl 'Prif Weinidogol' cyntaf, cyn i bartion y lleill dechrau ei weld fel bygythiad go iawn, a dechrau ar eu gwaith o danseilio ymgyrch arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mi ddaeth ochr annoddefgar personaliaeth Mr Brown i'r wyneb echddoe, wrth iddo fo cael ei ddal mewn preifat yn galw dynes yn 'bigot', rhywun ei fod o wedi gadael yn holl gytun dim ond eiliadau yn gynt. Teimlais drosto a dweud y gwir, wrth i'r cyfryngau wneud mór a mynydd o'i sylwadau dauwynebog, ond siawns fasen ni'n cael clywed lot gwaeth pe tasen ni i gael cyfle i glustfeinio ar sgyrsiau preifat sawl gwleidydd. Dylsai pethau felly bod wedi cael eu rhyddhau gan 'Sky' yn y lle gyntaf ?... ond wrth cwrs cwmni Rupert Murdoch ydy 'Sky'!
Ond wrth cwrs mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i bleidleisio drostynt (wel os dyni am fwrw pledlais), ac mi faswn i'n digon hapus gweld senedd grog er mwyn gwneud rhywbeth i dorri'r hen gyfundrefn o lywodraethau gor-bwerus heb ddigon o gefnogaeth. Dyma gyfle euraidd i ni wneud gwahaniaeth trwy pleidleisio'n tactegol, ond am y tro olaf gobeithio..

24.4.10
Eisteddfod y Dysgwyr 2010
Cyn i'r cystadlu
Mi aethon ni draw i 'Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Dwyrain Cymru' neithiwr, yng Nghlwb y Gweithwyr Gwersyllt, pentref ar gyrion Wrecsam. Gaethon ni dipyn o drafferth yn dod o hyd i'r lleoliad, ond llwyddon ni yn y diwedd cyrraedd jysd mewn amser. Ymunon ni á Mike, Anne a Nigel (o'r dosbarth nos blwyddyn 2) oedd wedi sicrhau bwrdd yng nghanol y cynulleidfa.
Cyn i ni gael amser i setlo, roedd Sion Aled (cyflwynydd y noson) wedi datgelu'r cystadleuaeth cyntaf, sef y 'Parti Adrodd', ein cystadleuaeth ni! Ar ól aros i gwpl o'r partion eraill 'adrodd', mi wnaethon ni gamu at y llwyfan lle cyflwynodd Nigel ein darn ni unigol... 'Cofiwch am Ddysgwyr Cilgwri'! Mi aeth popeth yn iawn dwi'n meddwl, a phefformion ni'r darn yn ddi-drafferth. Gaethon ni 'gydradd trydydd' am ein ymdrechion, ond hynny mewn cystadleuaeth o safon uchel, felly da iawn i bawb!
Y cystadleuaeth nesaf i gael ei gyflwyno, oedd y canu unigol. Roedd fy ngwraig Jill wedi cael ei dadbwyllo i ymarfer darn ar ran hon, a finnau wedi cynnig ei chyfeilio ar y gitar, penderfyniad wnes i edifaru, wrth i mi ddechrau cerdded tuag at y llwyfan! Dwn i ddim pwy oedd yn fwy nerfus, Jill neu fi, y dau ohoni heb canu (neu ganu offeryn) mewn cyhoedd am flynyddoedd maith, ond doedd dim ots, ar ól un 'false start', mi lwyddon ni i gwplhau dau benill o 'Suo Gan' (wel yr un benill dwywaith i fod yn onest!), ac roedd cymeradwyaeth y cynulleidfa yn swn i groesawu ac i wneud i'r ymdrech teimlo'n gwerthchweil. Mi ddaeth Jill yn drydydd, ac er gwaethaf ei nerfusrwydd (a 'chord' neu ddau anghywir gan fi!) wnaeth hi fwynhau ei phrofiad cyntaf o'r Eisteddfod y Dysgwyr dwi'n meddwl.
Gaethon ni sgwrsiau á ffrindiau hen a newydd, ac roedd hi'n braf gweld criw dda o'r dosbarth flwyddyn un yna hefyd. Wna i ddarganfod be' wnaethon nhw meddwl wythnos nesaf, ac os maen nhw am gystadlu yn 2011... Uchafbwynt y noson yn bersonol, oedd derbyn 'Gwobr Dafydd ap Llywelyn', gwobr sy'n cael ei chyflwyno i ennillydd cystadleuaeth i sgwennu traethawd ar ryw agwedd o hanes Gogledd Dwyrain Cymru (wna i bostio'r darn am 'Wlad y Mor' yma cyn hir). Roedd hi'n fraint derbyn y wobr am rywbeth wnes i wir mwynhau'n ei wneud, caiff y darn o wydr ei trysoru dros y ddeuddeg mis diwetha!
Yr unig cwyn wnes i'w glywed oedd am 'acoustics' yr ystafell, rhywbeth teimlodd pobl tuag at y cefn yn anffodus, wrth i swniau'r bar boddi ymdrechion cystadleuwyr ar y llwyfan, Gyda'r lle yn orlawn a diffyg cyfundrefn swn digonol roedd 'na gryn clebran yn ymharu á rhai o'r perfformiadau. Mi fydd yr Eisteddfod yn ól yn Sir y Fflint blwyddyn nesaf, felly gobeithio ni fydd yr un broblemau yna.
17.4.10
Llosgfynydd....
Un o'r geiriau yna sydd fel bws yw 'Llosgfynydd'. Mi gei di dreulio amser maith heb ei weld, ond y peth nesaf mi weli di o sawl gwaith o fewn dim o amser. Geiriau annodd i gofio gallai'r rhai 'achlysurol' yma bod i ddysgwyr. Yn yr achos yma cawn ni ei dysgu'n rhwydd, am fod cyfuniad perffaith o eiriau mwy cyffredin ydy o (fel 'eirlaw' a 'daeargryn'), ac mae hynny'n gallu bod yn help mawr. Dwn i ddim faint o Gymru Gymraeg sy'n defnyddio 'llosgynydd' (neu 'mynydd tán') yn lle 'folcano', ond i ddefnyddwyr gwasanaethau newyddion cyfrwng Gymraeg mi fydd y gair yn un gyfarwydd iawn dros y wythnosau (ac o bosib misoedd), yn ól y fylcanolegwyr sy'n llenwi pob bwletin y newyddion ar hyn o bryd.
Wrth cwrs gyda straeon o'r fath, mi gawn ni hanes pob agwedd o'r 'creisis' presenol', o'r hogyn yn ei arddegau yn 'bored' yn y maes awyr, a dim ond dau 'consoles gém' i chwarae arnynt... bechod! i drigolion tref Richmond, yn dathlu'r llonyddwch sydd wedi llenwi'r awyr, ar ól i Heathrow cael ei cau i awyren. Fel arfer mae nhw'n diodde swn awyren yn sgrechian uwchben y dref pob munud a hanner trwy'r dydd.
'Mae ymyl arian i bob cwmwl du'.... wel hynny yw os nad wyti'n cynllunio hedfan dros y dyddiau nesaf!

13.4.10
Diwedd y cwrs..
Mi aethon ni yn ôl i'r dosbarthiadau nos heno, ar ôl saib y Pasg. Dyni bron a bod wedi cyrraedd diwedd y cwrslyfr 'Mynediad' gyda dim ond cwpl o unedau ar ôl. Dwi ddim cweit yn sicr be wnawn ni ar ôl hynny am weddill y flwyddyn. Mae 'na wrth cwrs cwrslyfr 'sylfaen' i symud ymlaen ato fo, ond mi faswn i'n licio trio cynnig tipyn o amrywiaeth hefyd trwy edrych ar adnoddau eraill sydd ar gael (rhywle gobeithio!), dwn i ddim beth yn union eto, rhywbeth i helpu adeiladu ar yr hyn sydd gynnon nhw'n barod am wn i. Mi fydd rhaid i mi feddwl o ddifri dros y cwpl o wythnosau nesa!
11.4.10
Gwleidyddiath di-baid....
Sedd 'marginal' yw Gorllewin Cilgwri, gyda aelod seneddol o'r enw Stephen Hesford yn ein cynrychioli ar ran y Plaid Lafur ers 1997. Ond tir naturiol y Ceidwadwyr yw hi yn y bon, gyda'r Toriaid yn rheoli ers 1945, a disodlwyd y rheiny dim ond gan dirlithriad y Blaid Lafur '97, a hynny o dan arweiniad 'ceidwadol' Tony Blair. Y tro 'ma, gyda Mr Hesford yn rhoi'r ffidl yn y to (oherwydd 'rhesymau teuleuol'..... er tybiwn i 'neidio cyn gael ei wthio' yw'r rheswm go iawn), ac yntau wedi ennill parch trwy gweithredu dros ymgyrchoedd lleol, prin iawn yw'r siawns o weld Llafur yn dal y sedd. Dwi newydd darganfod 'Phil Davies' yw enw ein ymgeisydd seneddol newydd ar ran y Blaid Lafur, ond does fawr o wybodaeth amdano ar wefan y Blaid hyd yn hyn (tipyn o wendid yn yr oes sydd ohoni). Mae o'n bell ar ei ôl yn barod ac mi fydd rhaid iddo fo ganfasu'n aruthrol o galed i wneud argraffiad ar yr etholwyr, sydd yn ôl y polau piniwn wedi troi yn erbyn Gordon Brown a'i Blaid Lafur.
Fel canlyniad wnawn ni weld y Tori Esther McVey yn sicrhau ei lle yn San Steffan. Gwahoddwyd y cyn gyflwynwraig teledu i fod yn llywodraethwraig yn ysgol fy merch, ychydig o fisoedd cyn ddod yn ail agos i Mr Hesford yn 2005. Roedd Mr Hesford 'wrth rheswm' yn llywodraethwr mewn ysgol, ond ysgol ei fab oedd hynny, does gan Ms McVey dim plant, a ches i fy ngwylltio gan apwyntaid mor 'crass' gan yr ysgol, sydd ddim yn lle addas i ddarpar-wleidydd rhoi sglein ar ei delwedd yn fy mharn i.
Ta waeth, gyda dros tair wythnos o ymgyrchu sy'n dal i fynd, fydda i a phawb arall yn y wlad yn siwr o gael llond bol o wleidyddiaeth, er rhaid i mi gyfadde fy mod i'n eitha fwynhau'r holl dadleuon gwleidyddol a welwyd ar raglenni fel 'Question Time' a 'This Week' (a 'Phawb a'i Farn' a 'CF99' wrth rheswm!). Y tro hwn y cawn ni dri 'dadl teledu' rhwng arweinwyr y prif pleidiau hefyd, datblygiad 'americanaidd' bod y gwleidyddion wedi trio gwrthod ers degawdau, ond rhywbeth sy'n amlwg at dant y cyfryngau, a'r cyhoedd efallai. Gyda'r dau brif arweinydd yn derbyn hyfforddiant gan rai o gynghorwyr yr Arlwydd Obahma yn ôl y son, mi fydd yr holl beth yn dipyn o sioe mae'n siwr, er nid fawr o gymhorth i ni efallai. Mi fydd yr un gyntaf yn cael ei darlledu nos iau, felly cawn ni weld..

8.4.10
Cerys yn hudo gyda straeon a chaneuon....
![]() |
Tynnodd sylw y dorf i'r ffaith ei bod hi'n wynebu arwydd enfawr ar wal cefn y neuadd gyda'r enw Glyndŵr arno, atgof parhaol i barchu'r Gymraeg, a rheswm, meddai hi, i wneud chwater y set yn yr iaith! Ni gaethon ni gymaint â hynny mewn gwirionedd ( tri cân os cofiaf yn iawn), ond roedd Cerys yn ymfalchio o fod yn ardal y Tywysog yn ogystal a gwirioni gyda'r enw Rhosllanerchrugog, a welodd ar arwyddion ffyrdd. Gosodwyd yr her o ddysgu sut i'w dweud (yn ystod yr egwyl) i Mason druan, er gafodd ei ryddhau o'i ddyletswydd ar ôl i Cerys darganfod bod 'Rhos' yw enw dydd i ddydd y pentre.
Uchafbwynt y noson i sawl oedd perfformiad gwefreiddiol o 'Mulder & Scully', a dyma'r eildro yn unig iddi hi'w chanu ers i Catatonia chwalu. Ond i mi roedd ei chlywed hi'n dehongli nifer o ganeuon traddodiadol yr un mor drawiadol, un o'r Alban, ac wedyn cwpl oddi wrth ei prosiect newydd 'Tir', sef casgliad o ganeuon traddodiadol a lluniau sy'n cael ei rhyddhau ym mis Medi. Ym 'Migildi Magildi' gafodd yr americanwr Neely i ddatgelu enw'r canwr byd enwog sy'n perfformio y deuawd ar y CD (Bryn Truffle) cyn ei ganu'r rhan ei hun! a fel encore gwahoddwyd pawb i ymuno mewn fersiwn bywiog o Sospan Fach.
Mae'r daith yn mynd yn ei flaen am ddeg diwrnod arall gan cynnwys nifer o berfformiadau o amgylch Cymru, ac mi faswn i'n cymeradwyo cwpl o oriau mewn cwmni Cerys a'i cherddorion yn fawr iawn.
6.4.10
Tair awr yn ormod....!!
Cymharol bach mae'n siwr yw'r nifer o Gymry Gymraeg sy'n poeni rhy lawer am amserlen Radio Cymru. Darlledwr at leiafrif o siaradwyr iaith lleiafrifol yw'r orsaf yn y bon, gyda'r rhan helaeth o'r rhai sy'n medru yn y Gymraeg yn gwrando ar (yn ôl y ffigyrrau gwrando) yr amrywiaeth eang o orsafoedd Saesneg sydd ar gael, ac ambell i orsaf masnachol 'dwyieithog',.. os gwrando o gwbl!
Dros y flynyddoedd dwi wedi clywed sawl dadl am y 'gwasanaeth genhedlaethol' a'i ymdrechion i fod yn bobeth i bawb, dyletswydd tu hwnt i annodd. Fel un o wrandawyr cyson yr orsaf, ro'n i'n fodlon rhoi siawns i'r newidiadau diweddaraf ar ran rhaglenni yn ystod oriau'r dydd, y rhan helaeth ohonynt sydd wedi bod yn weddol llwyddianus (o safpwynt i), ond mae trefn y p'nawn wedi dechrau troi arnaf erbyn hyn.
Does gen i ddim byd yn erbyn Eifion (Jonsi) Jones yn gyffredinol, ond mae tair awr ohono pob p'nawn yn ormod. Yn y boreau, cwta dwy awr dyni'n ei chael yng nghwmni Eleri Siôn a Dafydd Du, sioe sydd wedi bod yn chwa o awyr iach (yn fy mharn i), ac sy'n cynnig rhywfath o chwaeth cerddorol o leiaf! Gyda Jonsi dyni'n cael yr un un ganeuon Cymraeg (gan cynnwys stwff canu wlad Cymraeg amheus tu hwnt!), yn ogystal ag ambell i gân Saesneg o'r chwedegau neu at dant y cyflwynwr tybiwn i. Digon teg gallech chi ddweud, mae nhw'n targedu cynulleidfa 'pennodol' sy'n mwynhau y rheiny, ond mae tair awr yn ormod! Gafodd cynulleidfa'r de-orllewin eu neilltio i bob pwrpas gyda diwedd eu rhaglen arbennig nhw am ran o'r prynhawn, a thueddiad Jonsi i fod yn eitha blwyfol ar adegau.
Wrth gwrs does dim pwynt cwyno heb fentro arghymell rhywbeth arall, ac mae'r ateb yn weddol syml o'r hyn a 'glywaf' i. Pam lai rhannu'r p'nawn (hynny yw'r darn rhwng 2-5) unwaith eto? Rhowch awr a hanner i Jonsi, ac wedyn rhywbeth ffresiach ac ifengach am weddill y p'nawn.
Mae 'na gyfle targedu cynulleidfa newydd yn ystod ail hanner y prynhawniau, gyda nifer o blant 'yn gaeth' mewn ceir eu rhieni, neu falle'n cyrraedd adre i glywed y radio yn y cefndir. Beth am roi gynnig i un neu ddau o gyflwynwyr C2 wneud rhywbeth? Mi fasai rhywun fel Magi Dodd yn wneud jobyn dda mae'n siwr. Ond mae un peth un sicr, dwi'n ffeindio fy hun yn diffodd y radio rhwng 2 a 5 yn gyfan gwbl yn amlach y dyddiau 'ma... fel dwedais, pob parch iddo fo, ond mae tair awr o Jonsi yn ormod i finnau!

4.4.10
Clirlun....
Ges i domen o bost ddoe (post go iawn!), gan cynnwys dau cyfrol Cymraeg, 'Barn' a 'Sgrîn'. Dwi'n hoffi Sgrîn. Mae gynno fo olwg 'da' (cynrychioliad o gyllideb S4C?), ac mae'n rhydd i ddarllen. Yn aml iawn mi fydd o'n codi fy niddordeb mewn ambell i raglen sydd ar weill S4C, neu fy atgoffa o un fy mod i wedi ei hesgeuluso neu anghofio amdani.
Erthygl wnaeth fy ymddiddori y tro 'ma oedd un o dan y teitl 'Clirlun'. Yn ôl y son, dyma enw gwasanaeth newydd 'manylder uchel' (HD) S4C, un sydd i fod yn dechrau rhywbryd yn ystod 2010. Mae gynnon ni gwpl o deleduon 'HD ready', ond dim modd ar hyn o bryd o dderbyn y signal. O'r hyn o'n i'n gwybod, roedd rhaid i rywun naill ai brynu 'kit' Freesat, neu arwyddo cytundeb â Sky a chael un o'u dysglau nhw (does gynno ni ddim 'cable' ar gael yn fan hyn). Ond darllenais yn 'Sgrîn' gei di dderbyn HD erbyn hyn trwy gwneud dim byd mwy na disodli dy flwch 'Freeview' presenol gyda blwch 'Freeview HD', hynny yw trwy eich eriel cyffredin. Mae 'na fodd chwilio eich cyfeiriad er mwyn gweld os oes gan dy ardal di dderbyniad digonol i gael lluniau HD eto, ac yn ôl y canlyniadau, mae pob dim yn iawn. Wedi dweud hynny, mae'r blychau Freeview HD yn eitha ddrud ar hyn o bryd (tua £165), felly na fydden ni'n gwylio HD neu 'Clirlun' am sbelan eto, ond mae'n diddorol beth bynnag.

3.4.10
Y Ras Cychod...
![]() |
| Ras 2009 |
Mae hanes y Cymro yng nghwch Rhydychen yn ddiddorol hefyd. Mae Ben Myers yn 20 oed , ac y rhwyfwr ifengaf yn y dau cwch. Mae o'n dod o Lundain ond yn rhugl yn y Gymraeg am fod ei mam yn dod o Gastell Newydd Emlyn, a siaradodd o am y ras ar y Post Gyntaf y bore 'ma. Mae o'n nai i'r beirdd o fri y 'Bois Parc Nest' sy'n cynnwys wrth gwrs, T. James Jones archdderwydd Cymru.
Os dwi'n adre felly y p'nawn 'ma - ac mae 'na siawns go iawn efo'r annwyd sydd gen i ar y funud - fydda i'n eistedd o flaen y teledu i'w wylio!
Gwyliais y ras y p'nawn 'ma, un gymharol cyffrous yn ôl y sylwebyddion. Gafodd griw Rhydychen eu siomi yn y pen draw, gyda chriw Caergrawnt - ar ôl bod ar eu holau yn hanner cyntaf y ras - yn dod yn ôl yn gryf a rhwystro Rhydychen rhag gipio eu thrydedd ras yn olynol.
2.4.10
Maen 'Thor'
Un o fy hoff lefydd yng Nghilgwri yw Cytir Thurstaston, ardal o rostiroedd a choedwigoedd, a harddwch naturiol sydd wedi ei gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers tua canrif erbyn hyn. Uchafbwynt taith i Thurstaston i ni fel plant oedd y cyfle i ddringo 'Thor's Stone', lwmpyn o dywodfaen sy'n codi o ganol pant yn y tirlun. Mae 'na straeon di-ri am hanes y graig hon, rhai yn cysylltiedig gyda seremoniau creddfol y llychlynwyr a setlodd tua mil o flynyddoedd yn ôl. Fel sawl genhedlaeth o'n blaenau, fe gerfiom ni ein enwau ar wyneb meddal y graig wrth ddringo i'w chopa, gan grafu arni gyda unrhywbeth oedd ar gael.
Dyna pam dewisiais gip ohoni fel cefndir i 'header' newydd y blog. Dyma rhywbeth sy'n cynrychioli Cilgwri mewn ffordd, yn enwedig lliw y tywodfaen, sy'n rhedeg trwy'r penrhyn fel asgwrn cefn - onibai am yr haeni o dywodfaen, mae'n debyg mi fasai'r tir wedi ei grafu i ffwrdd yn gyfan gwbl gan yr oes yr iâ diweddaraf! O liw y carreg mae'n bosib daeth enw Cymraeg y penrhyn hefyd: 'Cil-gwrid' gyda ystyr 'gwrid' yn cyfeirio efallai at gochni'r cerrig.
1.4.10
Delwedd newydd...
Dwi wedi cael tipyn o hwyl yn chwarae efo rhai o'r templatau newydd sydd ar gael ar 'Blogger'. Dwn i ddim os dwi'n hoffi'r delwedd newydd eto, ond mae'n braf cael newid pob hyn a hyn 'tydi?
29.3.10
Tro Wyau'r Pasg Cilgwri....
rhai o'r beiciau yn pasio trwy West Kirby
Cynhalwyd y 'Wirral Egg Run' dydd sul, sef y gorymdaith blynyddol o feiciau modur sy'n cludo wyau Pasg at ysbytai lleol a chodi arian ar eu rhan. Mae'r peth wedi tyfu'n aruthrol dros y flynyddoedd gyda tua 10,000 o feiciau yn cymryd rhan rŵan, wrth ddechrau yn New Brighton a dilyn taith o amgylch y penrhyn. Wedi profiad o gael fy nal ar ochr anghywir y dref ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae'n pwysig cofio i beidio mentro i Morrisons ar fore yr 'Egg Run', gyda'r beiciau yn cymryd rhai dwy awr neu fwy i fynd heibio.
Dwi ddim yn 'feiciwr', ond mi es i lawr efo'r merch i wylio'r golygfa rhyfeddol yn ymlwybro trwy'r dre bore ddoe. Mi welsom ni bob math o feiciau modur, treics modur, hyd yn oed beic a 'side car hearst' (welais i ddim arch ynddi!).
Roedd yr 'engylion o uffern' i weld yn dod ymlaen di-drafferth â'r 'mods' yn eu plith, a'r reidwyr quads a hogiau'r mopeds ar eu niffty ffiffties. Roedd y tywydd yn hynod o braf a phawb mewn hwyliau dda, efo'r eglwys yn ymyl y lôn yn cynnig coffi am ddim i'r gwilwyr!
24.3.10
Caersaint....
Mi ddes i at ddiweddglo Caersaint heddiw, y llyfr Cymraeg hiraf i mi ddarllen hyd yn hyn (tua 370tud). Wnes i'w fwynhau rhaid i mi ddweud, ac er nad ydwi'n cyfarwydd â phob twll a chornel o Gaernarfon, welais luniau yn fy meddwl wrth darllen yn adlewyrchu'r darnau dwi yn eu cofio o ambell i drip i dre y cofis - neu'r saint fel maen nhw'n cael eu galw yn y llyfr.
Yr unig peth ges i dipyn o drafferth yn dod i arfer gyda fo - ar wahan i ambell i ddarn o dafodiaeth! - yw'r ffaith bod 'llais' y llyfr, sef llais y prif cymeriad Jaman Jones, yn llais gŵraidd, ond sgwennwyd y llyfr wrth cwrs gan ddynes. I ddechrau o'n i'n stryglo gwneud llais Jaman yn un ŵraidd yn fy mhen, ac yn y diwedd wnes i ail-dechrau'r llyfr er mwyn sicrhau hogyn oedd 'Jaman'! Wedi dweud hynny, mi ddes i'n cyfarwydd efo hynny yn y diwedd, wrth i'r stori mynd yn ei flaen, ac hefyd efo'r arddull o sgwennu. Rhaid dweud wnes i wir ei fwynhau, a chaiff rhywun blas arbennig o 'Gaersaint' a syniad o gymeriad y dref a rhai o'i thrigolion efallai, er wrth cwrs gwaith ffuglen yw'r llyfr. Mewn gair: Ardderchog!

Subscribe to:
Posts (Atom)