27.3.06

Chwilio am ty?

Tasech chi am symud i'r penrhyn yma am rai rheswm neu arall, wel falle fasai'r ty yma yn lle delfrydol i chi. Mi fyddech chi'n cael golygfeydd eithriadol o dda ar draws y Dyfrdwy tuag at y Gogledd, complecs nofio efo stafelloedd newid i ddynion a merched, stafell snwcer, 'orangery' wrth rheswm a bron popeth arall o dan yr haul mi allech chi angen. Mi fasech chi mewn cwmni da yno hefyd, enwogion o'r maes peldroed, datblygwyr tai a dynion busnes drwgdrybus eraill, ond wedi dweud hynny dychi ddim yn debyg o weld llawer ohonynt tu cefn i'r 'gatiau trydanol' ffasiynol iawn ffordd yna.

Er cyn i chi brysio i'r gwerthwyr tai sy'n delio efo'r 'cynnig' yma, well i chi sicrhau eich morgais o saith miliwn o bunoedd (ie, £7,000,000 yn ol hysbys yn cylchgrawn y 'Cheshire Life') efo eich rheolwr banc.

Dwi wedi clywed sibrydion bod Raffa Benitez rheolwr clwb peldroed Lerpwl wedi cael cipolwg arni hi hefyd, felly well i chi brysio, mae o newydd arwyddo cytundeb newydd.

No comments: