26.3.06

Dysgwr o Efrog Newydd

Roedd 'na ddysgwr (sy'n bellach yn rhugl) arall o'r Unol Daliethau ar raglen 'Beti a'i Phobl' y wythnos yma yn siarad am ei bywyd diddorol. Dwi'n dweud 'arall' gan bod erbyn hyn dwi'n nabod o ychydig eraill o dros Mor yr Iwerydd sy wedi llwyddo i gael gafael o'r iaith 'ma.
Ar wahan i eraill sydd wedi dysgu'r iaith 'ma mae ganddo fo cysylltiad amlwg Cymreig, sef tad o Ferthyr Tudful. Mae ei hanes yn siwr o ysbrydoli unrhyw dysgwr ac mae o'n rhoi ei lwyddiant lawr i gwrs wlpan, rhywbeth hanfodol yn o^l fo.

Mae o'n son am glywed cwpl o dwristiaid yn siarad Cymraeg ar y 'subway' yn ddiweddar a dechrau sgwrs efo nhw, nid fasen nhw wedi disgwyl cael sgwrs yn eu hiaith eu hunan gyda Americanwr ar y tren danddaearol yno.

2 comments:

Anonymous said...

Helo...
Mi welais dy sylwadau ar blogiadur. 'Roedd dy stori yn fy atgoffa fi o siopa yn lleol ar Ynys Vancouver , a chyfarfod â Chymraes arall o Ogledd Cymru.....oedd yn siarad Cymraeg:)

neil wyn said...

Peth anhygoel 'tydi. Mae'n posib bod mewn drefi yng Nhgymru heb clywed gair o Cymraeg!