30.3.06

Dadorchuddio y plac

Dwi'n edrych ymlaen at dydd sul a'r digwyddiadau ar y Cae Ras er mwyn dathlu canflwyddiant y ffilm cyntaf o gem peldroed rhwngwladol. Mi gafodd y ffilm bach ei tynnu ar y Cae Ras yn ystod gem rhwng Cymru ac Iwerddon lle chwaraeodd cefnder pell i mi (sef Leigh Roose) rhwng y pyst i Gymru. Mae fy Mam a Dad wedi cael tocynau ar gyfer y VIP buffet lle fydden nhw'n rwbio ysgwyddau efo John Toshack ac hen chwaraewyr eraill, ond yn anffodus does dim ond dau tocyn pob teulu, felly i'r stondin byrgyrs a ninnau!

Mae 'na ddigwyddiadau yn y maes parcio (ciciau gosbi ac ati) yn ol yr hysbyseb ac fydd JT yn dadorchuddio plac sy'n dathlu ffilm Mitchell a Kenyon.

Mae'r digwydddiad ar agor i'r cyhoedd gan cynnwys gem bechgyn rhwngwladol o ddeg munud pob ffordd. Fydd y gatiau ar agor hanner wedi un efo'r dadorchuddio am 2.20 a'r gem byr ar ol hynny.

No comments: