

Leigh Roose yn barod i arbed ergyd tra chwarae dros Stoke. Mae'r llun lliw yn dod o cerdyn sigaret o'r cyfnod.
O'n i wedi son
o'r blaen am y golgeidwad enwog (wel cant mlynedd yn ol o leia) o'r enw Leigh Roose sy'n perthynas pell i mi. Mae o'n cefnder 'wedi symud tairwaith', a chofiodd fy Nhaid fo'n dod i ymweled a'i deulu ambell waith. Ta waeth, y bore 'ma mi ges i galwad ffon oddi wrth fy Mam i ddweud bod 'na erthygl amdanhi a lluniau ohono yn y Daily Post, ac fasai hi'n ei sganio ac ei e-bostio i fi. Wrth cyd-ddigwiddiad llwyr, o'n i'n sbio ar y papurau tu allan i'r siop papur jysd o gwmpas y cornel o'r weithdy pan welais i copi unig o'r 'Welsh' Daily Post, rhywbeth sydd ddim ganddyn nhw fel arfer.
Mae'r erthygl yn son amdano fo fel 'playboy goalie' oedd mewn rhestr y 'top ten' gwynebau adnabyddus ym Mhrydain tua troi'r canrif. Un o'i 'concwests' o oedd y se^r 'musichall' Marie Lloyd yn ol yr erthygl, felly wnaeth o gampau eraill ar wahan i'r rhai ar y maes peldroed, chawarae teg iddo fo, dim rhy ddrwg am fab mans Presbyteraidd!
Roedd L.R. Roose yn hoff iawn o cario'r pel ymlaen at y llinell hannerr ffordd er mwyn cicio'r pel reit mewn canol 'geg gol' y tim arall. Roedd hyn yn hollol 'cyfreithlon' yn y gem ar y pryd ond gan bod o'n gwneud cymaint ohonhi wnaeth y FA newid y rheolau er mwyn rhwystro golgeidwadau' rhag cyswllt a'r pel a'u dwylaw tu allan i'r 'cwrt cosbi' (bocs penalty).
Wedi ymddeol o chwarae pel droed yn ei dridegau ar ol 24 capiau dros Cymru, mi aeth o mewn i'r fyddin ac yn anffodus mi gafodd o ei ladd allan yn y Ffrainc ar ol ennill medalau dros ei ddewrder. Dwi'n edrych ymlaen at darllen llyfr amdano 'Lost in France' gan Spencer Vignes sy'n dweud fo oedd y peldroedwr enwocaf ei genedlaeth.