Wel ar ol mis o fethu cael mynd i'r sesiwn sgwrs wythnosol draw yn Yr Wyddgrug (salwch, eira, diogi...), yr heno 'ma dwi'n gobeithio mynd. Dyni wedi cael ambell cawod o eira yn ystod y dydd, ond dim digon i effeithio'r ffyrdd, hyd yn oed mewn bryniau Sir y Fflint. Mi ffoniais i Daf o Fenter Iaith Sir y Fflint er mwyn sicrhau fydd y sesh yn digwydd, felly iffwrdd a fi ar ol cinio.
A dweud y gwir dwi'n edrych ymlaen at hanner neu ddau o gwrw (rhaid i mi yrru) a sgwrs Cymraeg. Siwr o fod fydd 'na dipyn o siarad am sefyllfa Clwb peldroed Wrecsam sy wedi cael 'reprieve' yn y llysoedd y wythnos yma. Mae'r Castell Rhuthun Yr Wyddgrug yn llawn o gefnogwyr brwd Wrecsam, a rhaid i mi cyfadde mae gen i ddidordeb drostyn nhw fy hun. Mi es i fel plentyn i'r Cae Ras yn aml iawn efo fy Nhad sy'n dod o'r dref yn wreiddiol.
2 comments:
Does dim yn well na malu cach am bêl-droed dros beint. Dwi'n gefnogwr Wrecsam, ac yn gobeithio dod fyny i'r gem yn erbyn Caer ar y 26ain o'r mis (rhaid cael tocyn o flaen llaw)
Does dim llawer o gariad rhwng cefnogwyr Caer a Wrecsam does... dwi'n cofio mynd i gem rhwngddyn nhw yn ystod y saithdegau. Mi deimlodd hi fwy fel gem rhwng Cymru a Lloegr!
Roedd Dafydd o Fenter Sir y Fflint a chriw o'r Wyddgrug wedi bod draw i Macclesfield nos fawrdd. Meddyliodd o rhywbeth fel 'beth ar wyneb y ddaear ydwi'n gwneud yma!' ar ol i Wrecsam ildiodd y tair gol
Post a Comment