11.3.06

cymhorth

Oes 'na unrhywun sy'n darllen y blog bach 'ma sy'n gallu fy helpu? Dwi'n darllen nifer o flogiau eraill, ond fel arfer dwi'n jysd anghofio i'w siecio nhw neu dwi'n eu siecio ac does dim post newydd yna. Dwi'n sicr mae 'na ffordd o gofrestru rhywle ar y we er mwyn cael gwybod trwy'r e-bost os mae 'na post newydd ar un blog neu'r llall. Siwr o fod dwi 'di darllen rhywun yn son amdanhi neu rhywbeth.

Diolch

4 comments:

neil wyn said...

diolch Blogel, wna i gofrestru...

Rhys Wynne said...

Dwi'n defnyddio bloglines hefyd. Yn ogystal a chadw golwg ar pa flogiau/gwefannau sydd di'w diweddaru, ti hefyd yn gallu creu blogroll (rhestr blogs) ar gyfer dy flog fel dwi wedi ei wneud ar Gwenu dan Fysiau.

Mae'r Blogiadur yn handi hefyd, ond mond blogs mae Aran wedi ei osod arno sydd yno.

Nwdls said...

A chofia, wedi i ti gofrestru ar bloglines dilyn y ddolen hon i;r dudalen danysgrifio er mwyn gosod botwm tanysgrifio hawdd ar dy borwr.

Galli di wedyn fynd i dy hoff flogiau, gwasgu'r botwm tanysgrifio a hei presto - mae o ar dy restr.

neil wyn said...

Diolch am y cymhorth pawb.