7.3.06

dadl arwyddion

Ges i wahodd (fel rhywun o dros y ffin) i siarad ar 'Taro'r Post' (nid ar y fainc) ar bwnc arwyddion dwyieithog. Rhai boi o'r RAC wedi dweud rhywbeth yn ol pob son am bobl yn cael eu drysu ganddyn nhw. Wel ffwrdd i chi i'r Swistir 'Mr RAC' er mwyn blasu arwyddion tairieithog, neu falle mae'n rhy peryglus i chi!! Os dychi ddim yn gallu ymdopi efo ambell arwydd dwyieithog, na ddylech chi bod ar y ffyrdd. Mae 'na elfen o bwynt go iawn wrth cwrs , dwi ddim yn deall pam does dim wahaniaith rhwng lliw neu ffont y dwy iaith. Dwi ddim yn golygu fel yn Iwerddon efo'r Gwyddeleg mewn rhywfath o ffont celtaidd hen ffasiwn, dwi'n son am cefndir lliw wahanol i'r rhan o'r arwydd sydd yn y Cymraeg neu Saesneg. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meddwl bod hi'n problem mawr ar rhan diogelwch, mae'r rhan mwya o ddamweiniau yn digwydd gan bod 'boy racers' yn gyrru rhy gyflym yn eu 'Vauxhall Novas' wedi eu 'gor-tiwnio' 'swn i'n meddwl! Meddyliwch am y 'ploncwrs' i gyd sy'n hedfan lawr y lon yn defnyddio'r ffon neu hyd yn oed tecstio. Siwr o fod mewn ychydig o flynyddoedd fydd pawb yn sbio ar y 'sattilite navigation' yn lle o'r ffyrdd beth bynnag! (oes 'na derm Cymraeg dros sat nat eto? beth am 'llywio lloeren'..) Dwi wedi dweud digon....

3 comments:

Tegwared ap Seion said...

"llywio lloeren"

grŵfi!

Dafydd Tomos said...

Mae llywio lloeren wedi ei ddefnyddio ers rhai blynyddoedd nawr, wedi ei fathu gan nifer o bobl yn annibynnol.. sy'n dangos ei fod yn drosiad naturiol, 'amlwg' falle :)

neil wyn said...

Rhaid bod yn amlwg i finnau i feddwl amdanhi ;) neu falle mod i wedi ei clywed y term o'r blaen. Mi glywais 'nodyn bodyn' ar gan i gymru wythnos diwetha!

'popty ping' yw enw gwych sy'n cael ei defnyddio bellach yn ein ty ni lle pawb (heblaw finnau) yn uniaith Saesneg!