20.3.06

'playboy goalie'.....perthyn i fi



Leigh Roose yn barod i arbed ergyd tra chwarae dros Stoke. Mae'r llun lliw yn dod o cerdyn sigaret o'r cyfnod.


O'n i wedi son o'r blaen am y golgeidwad enwog (wel cant mlynedd yn ol o leia) o'r enw Leigh Roose sy'n perthynas pell i mi. Mae o'n cefnder 'wedi symud tairwaith', a chofiodd fy Nhaid fo'n dod i ymweled a'i deulu ambell waith. Ta waeth, y bore 'ma mi ges i galwad ffon oddi wrth fy Mam i ddweud bod 'na erthygl amdanhi a lluniau ohono yn y Daily Post, ac fasai hi'n ei sganio ac ei e-bostio i fi. Wrth cyd-ddigwiddiad llwyr, o'n i'n sbio ar y papurau tu allan i'r siop papur jysd o gwmpas y cornel o'r weithdy pan welais i copi unig o'r 'Welsh' Daily Post, rhywbeth sydd ddim ganddyn nhw fel arfer.



Mae'r erthygl yn son amdano fo fel 'playboy goalie' oedd mewn rhestr y 'top ten' gwynebau adnabyddus ym Mhrydain tua troi'r canrif. Un o'i 'concwests' o oedd y se^r 'musichall' Marie Lloyd yn ol yr erthygl, felly wnaeth o gampau eraill ar wahan i'r rhai ar y maes peldroed, chawarae teg iddo fo, dim rhy ddrwg am fab mans Presbyteraidd!

Roedd L.R. Roose yn hoff iawn o cario'r pel ymlaen at y llinell hannerr ffordd er mwyn cicio'r pel reit mewn canol 'geg gol' y tim arall. Roedd hyn yn hollol 'cyfreithlon' yn y gem ar y pryd ond gan bod o'n gwneud cymaint ohonhi wnaeth y FA newid y rheolau er mwyn rhwystro golgeidwadau' rhag cyswllt a'r pel a'u dwylaw tu allan i'r 'cwrt cosbi' (bocs penalty).

Wedi ymddeol o chwarae pel droed yn ei dridegau ar ol 24 capiau dros Cymru, mi aeth o mewn i'r fyddin ac yn anffodus mi gafodd o ei ladd allan yn y Ffrainc ar ol ennill medalau dros ei ddewrder. Dwi'n edrych ymlaen at darllen llyfr amdano 'Lost in France' gan Spencer Vignes sy'n dweud fo oedd y peldroedwr enwocaf ei genedlaeth.

3 comments:

James said...

Dw i'n gallu weld fel dy hoffi ysgrifennu am pethau beunyddiol mewn yr un fath faswn dy siarad di fel wyt ti'n crybwyll in dy sylw ar fy mlog i. Mae blog diddoral gyda ti am y chwaraewr pel dreod. Wyt ti'n siarad Cymraeg bog ddyd?

Am y nofelau i'r cyfres ti wedi amgrymu, does ddim gyda fi ond fydd i'n bod yn edrych i'w.

neil wyn said...

Dwi ddim yn cael y cyfle i siarad Cymraeg pob dydd yn anffodus er mod i'n ceisio gwrando ar o leiaf dwy awr o Radio Cymru pob dydd. Rhaglen 'Taro'r Post' oedd yr un mwya defnyddiol i mi i ddechrau, gan bod chi yn cael clywed llawer o leisiau wahanol o bob cwr o Gymru. Dwi'n ceisio mynd draw i 'sesiwn sgwrs' pob wythnos dros y ffin yn y Gogledd er mwyn ymarfer fy Ngymraeg am gwpl o oriau yn y dafarn. Dwi'n falch mae 'na rhywbeth o ddidordeb i ti ar fy mlog.

James said...

Dw i'n deisyf ei bod dafarn Cymraeg agos at fi. Dyna un dafarn ger fi yn gwybyddus i ei chymdeithas hi gyda etifeddiaeth Gwyddelig, Yr Albanig a Cymreig ond neb ddim yn siarad Cymraeg yno. Dydw i ddim yn nabod siaradwr arall o Gymraeg.