Rhaid i mi cyfadde, dwi 'di cael uffern o wythnos. Mi ddechreuais i efo annwyd drwm tua deg diwrnod yn ol, ond cariais i ymlaen yn y gwaith beth bynnag... dyna hunangyflogrwydd i chi! (oes 'na ffasiwn gair? sdim son yn y geiriadur mawr, felly ddylwn i ddweud falle - 'gweithio i fy hun')... tan dydd gwener pan roedd rhaid i mi rhoi'r ffidl yn y to yn gynnar oherwydd gwres uchel. Dydd Sadwrn wnes i jysd lolio ar y soffa, yn hanner talu sylw ar y rygbi (rownds cynderfynol cwpan Heiniken dwi'n meddwl - andros o fuddugoliaeth i'r Sgarlets). Dydd Sul o'n i wedi cael digon felly i ffwrdd a fi i'r 'Out of Hours GP yn yr ysbyty. Dwy awr yn y stafell aros ac o'n i'n teimlo lot well wrth cwrs! Mi welais doctor yn y pendraw ond dim ond 'haint feirws' sydd arni fi meddyliodd o, felly yn ol at y gwely am weddill y dydd.
I wneud pethau ddrwg yn waeth (paid a phoeni, dwi'n ar fin stopio cwyno!), mi gollais i fy nhgysylltiad bandeang, felly dim we, dim e-pyst neu dim byd. Mae'n anhygoel faint 'dyn i'n debynnu ar y we erbyn heddiw 'tydi.
Popeth wedi cael ei datrys rwan diolch byth, a gobeithio fydd yr 'haint feiral' wedi cael llond bol o fi hefyd cyn bo hir. Tan y tro nesa...
1 comment:
Diolch Garlleg ;)
Dwi'n cofio clywed y gair unrhywle, ges i syndod i beidio ei weld hi yn y Geiriadur Mawr. Rhaid i mi buddsoddi mewn 'Acadami'.
Post a Comment